Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

14/08/2015

Gwirfoddolwr Profiad Ymwelwyr - Amgueddfa ac Oriel Gwynedd

Oes gennych diddordeb mewn celf a hanes?  Oes gennych ychydig o oriau yn rhydd yn ystod yr wythnos neu’r mis?  Mae Storiel yn agor yn ystod tymor yr hydref yng nghanol Bangor.  Dim amgueddfa ac oriel newydd yw hon, ond yn hytrach cyfnod newydd sbon yn hanes Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor.  Byddwn yn symud i ofod newydd ac mi fydd cyfle i unigolion ymuno â ni wrth gefnogi staff Storiel  i gynnig y profiad gorau y gallwn i bawb.  Mae’n hanfodol gallu sgwrsio yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer y rôl hon.  Nid oes angen dealltwriaeth helaeth am hanes a chelf, oherwydd bydd hyfforddiant ar gael.  Bydd cyfarfod a chefnogi ymwelwyr yn elfen fawr o’ch rôl, ac mi fydd cyfle i gyfarfod pobl o led-led y byd, felly bydd sgiliau rhyngbersonol yn hanfodol.  Rydym yn chwilio am hwyluswyr i’r orielau hanes, orielau celf, y siop,     derbynfa, y pwynt gwybodaeth i twristiaid a'r gofod dysgu.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com