Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

01/04/2016

Gwirfoddolwr Codi Arian - GISDA


 
I wirfoddoli i gynorthwyo gyda'r gwaith o godi arian i GISDA.

 •    Cynorthwyo’r Swyddog Busnes a Marchnata i drefnu a chydlynu gwaith o godi arian I GISDA
•     Meddwl m syniadau newydd o ffyrdd o godi arian
•     Gallu i drefnu digwyddiadau pan mae’r galw yn codi
•     Cynorthwyo’r Swyddog Busnes a Marchnata i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo codi arian at waith GISDA
•     Bod yn barod i wirfoddoli mewn digwyddiadau codi arian.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cynorthwyydd Glanhau SGLEIN



I wirfoddoli yn fenter gymdeithasol SGLEIN yn cwblhau tasgau cyffredin glanhau mewn amryw o adeiladau yn cynnwys swyddfeydd, siopau a thai gan gefnogi pobl ifanc a gwirfoddolwyr eraill.  Am fwy o fanylion am y cyfle gwirfoddol yma, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu drwy e-bostio gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Grwpiau Rhieni - GISDA


Cynorthwyo’r cefnogwr teulu/mentor cyfoed i drefnu a chydlynu’r grwpiau rhieni, ymuno a’r grwpiau rhieni, cyfathrebu gyda’r rhieni a’u plant, i feddwl am syniadau newydd o weithgareddau i’r grŵp rhieni, i fod yn gyfeillgar a hyderus o fewn y grŵp, i gymryd rhan yn y gweithgareddau a drefnir.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626/gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Mentor Cefnogol Caffi - GISDA


I wirfoddoli yng nghaffi Te a cofi drwy gefnogi a mentora gwirfoddolwyr. Fyddech yn gwneud dyletswyddau caffi cyffredinol drwy gefnogi'r gwirfoddolwyr yn eu tasgau. Fyddech yn rhoi cyfarwyddiadau a gyda'r gallu i weld gwaith sydd angen ei wneud.

Fyddech yn cael y cyfle i gynorthwyo'r gwirfoddolwyr i gwblhau eu llyfrau gwaith a hyfforddiant.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626/gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwy-ydd Gwirfoddol Caffi (16+) - GISDA


Mae hwn yn brosiect i ddatblygu canolfan hyfforddiant i bobl ifanc er mwyn dysgu sgiliau newydd a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen i waith cyflogedig yn y maes arlwyo.

Mae’r rôl gwirfoddolwyr yn gofyn iddynt wneud amrywiaeth o dasgau yn y gegin / caffi i sicrhau profiad rhagorol i gwsmeriaid. Gweini cwsmeriaid, paratoi bwyd a diod, glanhau byrddau a chadw’r caffi yn lan, defnyddio til wrth weithio mewn tîm effeithiol gyda gwirfoddolwyr eraill ag staff.  Mae’r cyfle yma yn addas i wirfoddolwyr oed 16+.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Mentor Cyfoed – GISDA


Prif nôd y cyfle yma ydi:  cynorthwyo’r gweithwyr allweddol a cefnogol gyda thasgau dyddiol, cyfathrebu yn gyson gyda’r gweithwyr allweddol/cefnogol, rhannu unrhyw bryderon ynglŷn â defnyddwyr gwasanaeth a’r staff perthnasol, i fod yn llais i'r bobl ifanc mewn cyfarfodydd e.e. grŵp ffocws, cyfarfod trigolion, bod yn glust i'r bobl ifanc wrth gadw’n broffesiynol a rhannu gwybodaeth pam angen yn ôl canllawiau cyfrinachedd.  Hefyd annog a chefnogi pobl ifanc i:  Cael defnydd llawn o brosiectau a’r cynlluniau, i fynychu gweithgareddau a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd ar gael, i  ddatblygu a dysgu sgiliau newydd, i  fod yn iach, i  gyllidebu eu harian yn well, i  goelio yn eu hunain a hyrwyddo hunan hyder, i gyrraedd eu llawn botensial.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Darparu Gwasanaeth Ysgolion NSPCC (ChildLine)


Mae Gwasanaeth Ysgolion NSPCC yn apelio am siaradwyr Cymraeg yn enwedig yng Ngwynedd i helpu i gyflwyno rhaglen arloesol i bob un ysgol gynradd leol yng Ngogledd Cymru. 

Mae Gwasanaeth Ysgolion ChildLine yn hyfforddi gwirfoddolwyr i ymweld ag ysgolion cynradd a thrafod cam-drin (gan gynnwys bwlio)gyda phlant rhwng 9 ac 11 oed mewn modd sy'n briodol i'w hoedran. Drwy wasanaethau ysgolion a gweithdai, mae'n rhoi'r sgiliau i bobl ifanc allu amddiffyn eu hunain ac mae'n esbonio ble i fynd i gael help.  Mae’r cyfle yma yn addas i wirfoddolwyr 16+ oed.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr cyfeillio i berson ifanc - NYAS


Byddai'r gwirfoddolwr yn cyfeillio person ifanc yn y Bala, trwy eu cynorthwyo ac eu cefnogi i ddarganfod gweithgareddai yn y gymuned yn fisol.  Mae’r cyfle yn addas i wirfoddolwyr rhwng 18 – 65 oed.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com