Mae Gwasanaeth Ysgolion
NSPCC yn apelio am siaradwyr Cymraeg yn enwedig yng Ngwynedd i helpu i gyflwyno
rhaglen arloesol i bob un ysgol gynradd leol yng Ngogledd Cymru.
Mae Gwasanaeth Ysgolion
ChildLine yn hyfforddi gwirfoddolwyr i ymweld ag ysgolion cynradd a thrafod
cam-drin (gan gynnwys bwlio)gyda phlant rhwng 9 ac 11 oed mewn modd sy'n
briodol i'w hoedran. Drwy wasanaethau ysgolion a gweithdai, mae'n rhoi'r
sgiliau i bobl ifanc allu amddiffyn eu hunain ac mae'n esbonio ble i fynd i
gael help. Mae’r cyfle yma yn addas i
wirfoddolwyr 16+ oed. Am fwy o fanylion
cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com