Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

01/04/2016

Gwirfoddolwr Mentor Cyfoed – GISDA


Prif nôd y cyfle yma ydi:  cynorthwyo’r gweithwyr allweddol a cefnogol gyda thasgau dyddiol, cyfathrebu yn gyson gyda’r gweithwyr allweddol/cefnogol, rhannu unrhyw bryderon ynglŷn â defnyddwyr gwasanaeth a’r staff perthnasol, i fod yn llais i'r bobl ifanc mewn cyfarfodydd e.e. grŵp ffocws, cyfarfod trigolion, bod yn glust i'r bobl ifanc wrth gadw’n broffesiynol a rhannu gwybodaeth pam angen yn ôl canllawiau cyfrinachedd.  Hefyd annog a chefnogi pobl ifanc i:  Cael defnydd llawn o brosiectau a’r cynlluniau, i fynychu gweithgareddau a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd ar gael, i  ddatblygu a dysgu sgiliau newydd, i  fod yn iach, i  gyllidebu eu harian yn well, i  goelio yn eu hunain a hyrwyddo hunan hyder, i gyrraedd eu llawn botensial.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com