Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

01/04/2016

Cynorthwy-ydd Gwirfoddol Caffi (16+) - GISDA


Mae hwn yn brosiect i ddatblygu canolfan hyfforddiant i bobl ifanc er mwyn dysgu sgiliau newydd a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen i waith cyflogedig yn y maes arlwyo.

Mae’r rôl gwirfoddolwyr yn gofyn iddynt wneud amrywiaeth o dasgau yn y gegin / caffi i sicrhau profiad rhagorol i gwsmeriaid. Gweini cwsmeriaid, paratoi bwyd a diod, glanhau byrddau a chadw’r caffi yn lan, defnyddio til wrth weithio mewn tîm effeithiol gyda gwirfoddolwyr eraill ag staff.  Mae’r cyfle yma yn addas i wirfoddolwyr oed 16+.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com