Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

06/09/2016

Fforwm Ieuenctid yn Amgueddfa Lechi Cymru- Llanberis


 
Ydych chi rhwng 14 a 25? Fedrwch chi ein helpu i ddenu pobl ifanc i’n hamgueddfeydd? Rydym yn chwilio am greadigrwydd a syniadau newydd ond yn fwy na dim am eich llais chi i gyfrannu at benderfyniadau yn Amgueddfa Cymru.
 
Mae Fforwm Ieuenctid ym mhob un o’n Hamgueddfeydd ar draws Cymru. Rydym yn annog pobl ifanc rhwng 14 a 25 i fod yn bartneriaid i ni a’n helpu i wneud penderfyniadau a threfnu gweithgareddau. Bydd y fforymau yn gwrando ar farn pobl ifanc ac yn canolbwyntio ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw. Mae fforymau ieuenctid Amgueddfa Cymru yn cyfrannu at brojectau, arddangosfeydd, digwyddiadau, gofal casgliadau, dylunio gwefannau a llawer mwy.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Arweinydd Taith Feicio (merched) – Beicio Cymru (18+)


 
Byddwch yn ran o brosiect unigrwy i ferched i gael mwy o ferched i feicio - 'Breeze'.
 
Mae Breeze yn cynnig cyfleoedd hyblyg, diogel, hygyrch a hwyl i reidio beic i ferched. Mae'r teithiau yn rhad ac am ddim, yn gyfeillgar ac yn agored i ferched o bob oed a gallu
 
Byddwch yn cael eich hyfforddi i fod yn Hyrwyddwr Breeze; gwirfoddolwr benywaidd fydd yn arwain y teithiau beic. Byddwch yn cael eich cefnogi gan Beicio Cymru a darperir cit pencampwr yn ogystal â aelodaeth British Cycling. Disgwylir y byddwch yn cwblhau 12 reidiau y flwyddyn, gall reidiau hyn cyd-fynd pan fyddwch ar gael ac yn lleol i chi.  Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwrandawyr Da gyda'r Samariaid (18 oed +)


 
Gwrando ar alwadau ffôn i'r linell gymorth gan gyfeirio galwyr yn aml mewn cyflwr bregus at wasanaethau all eu helpu.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cwnselydd Gwirfoddol – Stepping Stones


 
Cwnsela teulu / ffrindiau / partneriaid unigolion sy'n derbyn cwnsela gan Stepping Stones. Bydd hyn ar sail 1-1 a gynigir dros gyfnod o chwe wythnos.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 18+.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.

Cynrychiolydd Ysbyty Gwynedd – Tenovus


  
Mae Tenovus yn cynnig cymorth, cyngor a thriniaeth i gleifion canser a'u hanwyliaid. Fodd bynnag, ni allwn wneud hyn heb eich help.
 
Mae gennym hanes hir o gefnogi cleifion a'u teuluoedd sy'n mynychu Ysbyty Gwynedd. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gynrychioli Gofal Cancr Tenovus drwy hyrwyddo ein gwasanaethau cymorth canser a derbyn cyfeiriadau.  Mae’r rôl yma yn addas i bobl oed 18+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.

Cynorthwy-ydd Siop – Ambiwlans Awyr Cymru (Bangor)


 
Cynorthwyo gyda gwaith siop cyffredinol - gweithio ar y til, cadw'r siop yn lân ac yn daclus, yn edrych ar ôl y stoc, gwasanaethu cwsmeriaid.  Mae’r cyfle yma yn addas i oed 16+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.

Gwirfoddolwr Adborth Iechyd Meddwl facebook ac Celfyddydau – Fledgling Arts Collective Central



Bydd eich rôl yn cynnwys rhyngweithio gydag aelodau ar-lein yn rhoi adborth gan ddefnyddio'r fforwm Facebook ar eu prosiectau celfyddydau creadigol mewn ffordd adeiladol gadarnhaol. Bydd cael ymagwedd greadigol , cadarnhaol ac adeiladol yn bwysig ar gyfer y rol yma.  Mae’r cyfle yma yn addas i oed 15+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.

Garddwyr gwirfoddol – UDEVELOPIT C.I.C


 

Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig fyddai'n gallu ymrwymo i gynorthwyo i glirio a sefydlu gardd cegin fawr ar Stad y Faenol, Bangor. Mae'r ardal ar hyn o bryd wedi gordyddu a bydd y gwaith cychwynnol  yn cynnwys clirio  a pharatoi ar gyfer ardal tyfu planhigion/llysiau. Nid oes angen profiad blaenorol ond byddwn yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd gyda profiad yn y maes hwn.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.