Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

06/09/2016

Arweinydd Taith Feicio (merched) – Beicio Cymru (18+)


 
Byddwch yn ran o brosiect unigrwy i ferched i gael mwy o ferched i feicio - 'Breeze'.
 
Mae Breeze yn cynnig cyfleoedd hyblyg, diogel, hygyrch a hwyl i reidio beic i ferched. Mae'r teithiau yn rhad ac am ddim, yn gyfeillgar ac yn agored i ferched o bob oed a gallu
 
Byddwch yn cael eich hyfforddi i fod yn Hyrwyddwr Breeze; gwirfoddolwr benywaidd fydd yn arwain y teithiau beic. Byddwch yn cael eich cefnogi gan Beicio Cymru a darperir cit pencampwr yn ogystal â aelodaeth British Cycling. Disgwylir y byddwch yn cwblhau 12 reidiau y flwyddyn, gall reidiau hyn cyd-fynd pan fyddwch ar gael ac yn lleol i chi.  Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com