Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

06/09/2016

Fforwm Ieuenctid yn Amgueddfa Lechi Cymru- Llanberis


 
Ydych chi rhwng 14 a 25? Fedrwch chi ein helpu i ddenu pobl ifanc i’n hamgueddfeydd? Rydym yn chwilio am greadigrwydd a syniadau newydd ond yn fwy na dim am eich llais chi i gyfrannu at benderfyniadau yn Amgueddfa Cymru.
 
Mae Fforwm Ieuenctid ym mhob un o’n Hamgueddfeydd ar draws Cymru. Rydym yn annog pobl ifanc rhwng 14 a 25 i fod yn bartneriaid i ni a’n helpu i wneud penderfyniadau a threfnu gweithgareddau. Bydd y fforymau yn gwrando ar farn pobl ifanc ac yn canolbwyntio ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw. Mae fforymau ieuenctid Amgueddfa Cymru yn cyfrannu at brojectau, arddangosfeydd, digwyddiadau, gofal casgliadau, dylunio gwefannau a llawer mwy.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com