Mae Clwb ni Angen gwirfoddolwyr i helpu redeg y clwb sef
clwb cymdeithasol i bobl yn Pwllheli hefo anableddau. Mae angen gwirfoddolwyr i
helpu wneud gweithgareddau fel arts, canu ac bingo. Mae'r clwb ar agor bob Nos
Lun 7-9. Am fanylion pellach, cysylltwch
â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Cofrestru Diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
06/09/2016
Mentor ‘Through the Gate’ – PACT Cymru
Mae Pact yn elusen annibynnol uchel ei barch, yn gweithio
ledled Cymru a Lloegr i ddatblygu a darparu amrywiaeth o wasanaethau arloesol
drwy ddarparu cymorth ymarferol ac emosiynol i garcharorion, eu teuluoedd ac i
gyn-droseddwyr. O ganlyniad i ddatblygu cyfres o bartneriaethau strategol
llwyddiannus, mae is-gwmni, Pact Futures, wedi cael ei ddewis yn ddiweddar fel
darparwr dewisol o Wasanaethau Ailsefydlu. Mae hyn yn cynnwys darparu cyfuniad
o waith achos 1-1 ar gyfer troseddwyr sy'n ailsefydlu o'r carchar i'r gymuned a
sesiynau galw heibio / grwpiau cymorth.
Er mwyn cyflwyno'r prosiect hwn rydym yn gofyn am dîm o mentoriaid gwirfoddol
"Through the Gate". Mae’r
cyfle yma yn addas i bobl oed 18+. Am
fanylion pellach cysylltwch a Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Ymwelwyr cartref- prosiect 'Byw'n Dda gyda Colli Clyw' – Action on Hearing Loss
Nod y prosiect yw sicrhau y gall pobl yng Ngogledd Cymru
fyw yn dda gyda cholli clyw. Gwneir hyn drwy gefnogi pobl yn eu cartrefi er
mwyn dysgu sut i ddefnyddio offer cynorthwyol. Mae hwn yn brosiect ar y cyd
rhwng Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru ac Action on Hearing Loss felly bydd
gwirfoddolwyr yn cael eu cofrestru gyda'r ddau sefydliad. Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell
Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Fforwm Ieuenctid yn Amgueddfa Lechi Cymru- Llanberis
Ydych chi rhwng 14 a 25? Fedrwch chi ein helpu i ddenu
pobl ifanc i’n hamgueddfeydd? Rydym yn chwilio am greadigrwydd a syniadau
newydd ond yn fwy na dim am eich llais chi i gyfrannu at benderfyniadau yn
Amgueddfa Cymru.
Arweinydd Taith Feicio (merched) – Beicio Cymru (18+)
Byddwch yn ran o brosiect unigrwy i ferched i gael mwy o
ferched i feicio - 'Breeze'.
Mae Breeze yn cynnig cyfleoedd hyblyg, diogel, hygyrch a
hwyl i reidio beic i ferched. Mae'r teithiau yn rhad ac am ddim, yn gyfeillgar
ac yn agored i ferched o bob oed a gallu
Byddwch yn cael eich hyfforddi i fod yn Hyrwyddwr Breeze;
gwirfoddolwr benywaidd fydd yn arwain y teithiau beic. Byddwch yn cael eich
cefnogi gan Beicio Cymru a darperir cit pencampwr yn ogystal â aelodaeth
British Cycling. Disgwylir y byddwch yn cwblhau 12 reidiau y flwyddyn, gall
reidiau hyn cyd-fynd pan fyddwch ar gael ac yn lleol i chi. Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell
Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Gwrandawyr Da gyda'r Samariaid (18 oed +)
Gwrando ar alwadau ffôn i'r linell gymorth gan gyfeirio
galwyr yn aml mewn cyflwr bregus at wasanaethau all eu helpu. Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell
Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Cwnselydd Gwirfoddol – Stepping Stones
Cwnsela teulu / ffrindiau / partneriaid unigolion sy'n
derbyn cwnsela gan Stepping Stones. Bydd hyn ar sail 1-1 a gynigir dros gyfnod
o chwe wythnos. Mae’r cyfle yma yn addas
i bobl oed 18+. Am fanylion pellach
cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.
Cynrychiolydd Ysbyty Gwynedd – Tenovus
Mae Tenovus yn cynnig cymorth, cyngor a thriniaeth i
gleifion canser a'u hanwyliaid. Fodd bynnag, ni allwn wneud hyn heb eich help.
Mae gennym hanes hir o gefnogi cleifion a'u teuluoedd
sy'n mynychu Ysbyty Gwynedd. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gynrychioli
Gofal Cancr Tenovus drwy hyrwyddo ein gwasanaethau cymorth canser a derbyn
cyfeiriadau. Mae’r rôl yma yn addas i
bobl oed 18+. Am fanylion pellach,
cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.
Subscribe to:
Posts (Atom)