Mae Grwpiau Codi Arian yn trefnu casgliadau a chynnal
digwyddiadau codi arian ac annog cefnogaeth ar gyfer Marie Curie yn y gymuned
leol. Mae’r cyfle yma yn addas i oedran
18+. Am fanylion pellach, cysylltwch â
Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.
Cofrestru Diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
27/09/2016
Llysgennad Cymunedol- Pen Llyn – Marie Curie
Fel siaradwr cyhoeddus hyderus, byddwch yn rhoi sgyrsiau
am yr elusen ac egluro beth yw ein gwaith. P'un ai'n siarad â chlybiau,
cymdeithasau neu ag ysgolion lleol, byddwch yn sicrhau bod pobl leol yn gwybod
am y gwasanaethau hanfodol a ddarparwn a sut i’w defnyddio, ac yn helpu i annog
gwirfoddoli a chodi arian ar gyfer yr elusen.
Mae’r cyfle yma yn addas i oedran 18+.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu
gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.
Aelod Grwp Codi Arian- de Gwynedd – Marie Curie
Gall grwpiau codi arian fod yn hwyl, ac yn rhoi cyfle go
iawn i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned. Gan weithio'n agos gyda gweddill y
grŵp, bydd Aelodau'r Grŵp Codi Arian yn weithredol wrth drefnu casgliadau a
digwyddiadau cymunedol yn yr ardal ddaearyddol a gwmpesir gan y Grŵp Codi
Arian. Mae’r cyfle yma yn addas i oedran
14+. Am fanylion pellach, cysylltwch â
Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.
Profiad Ymwelwyr- Pabïau Caernarfon (Storiel)
Gan weithio'n benodol gyda'r Pabïau, byddwch chi'n
croesawu ymwelwyr i Gastell Caernarfon, yn rhoi cyfarwyddiadau ac yn ateb
ymholiadau mewn modd positif a chyfeillgar, ac yn helpu pobl i wneud y mwyaf
o'u hymweliad. Byddwch chi'n hyrwyddo
rhaglen o ddigwyddiadau 14-18NOW, yr arddangosfa Cofio er mwyn Heddwch,
Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a Chastell Caernarfon, ac yn annog ymwelwyr
i ddysgu am y gymuned leol. Am fanylion
pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Aelod Panel Cymunedol (21+) – Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
Bydd yn ddisgwyliedig i'r gwirfoddolwyr eistedd ar
Gyfarfodydd Panel Cymunedol fel rhan o'r broses Biwro (ataliol) a Gorchymyn
Cyfeirio (wedi Llys).
Mae'r Biwro yn weithrediad i daclo troseddu lefel isel,
trwy alluogi pobl ifanc i wneud iawn am eu troseddau heb ymyrraeth gan yr
Heddlu. Mae Cyfarfodydd Panel fel arfer yn cael eu cynnal ar hyd a lled Gwynedd
a Môn, ac mae nhw wedi eu gneud i fyny o Gadeirydd, Heddwas y GCI a
gwirfoddolwr cymunedol.
Mae'r Gorchymyn Cyfeirio yng ngorchymyn Llys sydd yn cael
ei roi i berson ifanc sydd yn pledio'n euog i'w trosedd cyntaf. Bydd fo/hi
yna'n gorfod mynychu Cyfarfod Panel Cymunedol, ble bydd 2 Gwirfoddolwr
Cymunedol ac aelod staff o'r GCI yn creu Cytundeb o waith i'r person ifanc
weithio arno am hyd eu Gorchymyn. Bydd y Panel yna'n cyfarfod hefo'r person
ifanc bob 3 mis i weld os ydynt wedi newid eu ymddygiad troseddol. Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell
Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.
Gwirfoddolwyr Siop a Chaffi, Ysbyty Gwynedd - Royal Voluntary Service
Mae siopau RVS , caffi a throli yn gwasanaethu cleifion
mewn ysbytai, y staff ac ymwelwyr gyda chynhesrwydd ychwanegol o gyfeillgarwch
a dealltwriaeth gan in gwirfoddolwyr.
Mae angen gwirfoddolwyr i helpu i redeg y gwasanaeth ,
gwasanaethu cwsmeriaid, cymryd taliadau wrth y til , paratoi diodydd neu fyrbrydau
a bod yn glust i wrando .
Mae gwirfoddolwyr yn sicrhau bod y siop yn cael ei
stocio'n briodol ac y caiff ei gadw'n lân a thaclus fel y disgwylir mewn
amgylchedd ysbyty. Mae’r rôl yma yn
addas i bobl oed 16+. Am fanylion
pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Cyfeillyd- Ardal Bermo - Royal Air Forces Association
Mae Cyfaill Gwirfoddol yn cynnal ymweliadau ac yn cadw
mewn cysylltiad ag aelodau o'r teulu RAF (cleientiaid) ar ran y Gymdeithas RAF.
Darparu cwmnïaeth a chymorth sy'n canolbwyntio ar y cleient a sicrhau eu bod yn
parhau i fod yn rhan o'r gymuned ac yn teimlo eu bod yn gysylltiedig yn
gymdeithasol i'r teulu RAF ehangach.
Gall gwirfoddolwr cyfaill helpu rhywun sy'n ynysig ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol neu ymweld
â pherson arall sydd yn ynysig/ unig ac helpu iddynt ddod o hyd i diddordebau
newydd yn y gymuned. Gall gyfaill helpu gyda chymorth ymarferol megis torri'r
lawnt neu mynd â rhywun i glwb ddosbarth ymarfer nos neu chwaraeon i'w helpu i
gwrdd â phobl newydd. Mae'r rôl yn amrywiol, mae'r cynllun yn rhychwantu pob
oedran ac mae'n hyblyg at ddant pawb.
Mae'r Gymdeithas RAF yn elusen lles a arweinir gan
aelodau. Am fanylion pellach, cysylltwch
â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
20/09/2016
Gwirfoddoli yn caffi / bar - Neuadd Ogwen
Paratoi bwyd a diod.
Cymeryd archebion bwyd a diod.
Glanhau y caffi.
Mae’r cyfle yma yn addas i unrhyw berson oed 14+.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Subscribe to:
Posts (Atom)