Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

27/09/2016

Cyfeillyd- Ardal Bermo - Royal Air Forces Association



Mae Cyfaill Gwirfoddol yn cynnal ymweliadau ac yn cadw mewn cysylltiad ag aelodau o'r teulu RAF (cleientiaid) ar ran y Gymdeithas RAF. Darparu cwmnïaeth a chymorth sy'n canolbwyntio ar y cleient a sicrhau eu bod yn parhau i fod yn rhan o'r gymuned ac yn teimlo eu bod yn gysylltiedig yn gymdeithasol i'r teulu RAF ehangach.

Gall gwirfoddolwr cyfaill helpu rhywun sy'n ynysig  ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol neu ymweld â pherson arall sydd yn ynysig/ unig ac helpu iddynt ddod o hyd i diddordebau newydd yn y gymuned. Gall gyfaill helpu gyda chymorth ymarferol megis torri'r lawnt neu mynd â rhywun i glwb ddosbarth ymarfer nos neu chwaraeon i'w helpu i gwrdd â phobl newydd. Mae'r rôl yn amrywiol, mae'r cynllun yn rhychwantu pob oedran ac mae'n hyblyg at ddant pawb.

Mae'r Gymdeithas RAF yn elusen lles a arweinir gan aelodau.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com