Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

08/02/2017

Mynd â Throli Rownd Ysbyty – RVS (Ysbyty Gwynedd)


Mae timau o ddau’n helpu gyda darparu gwasanaeth troli yn Ysbyty Glan Clwyd, gan gynnig byrbrydau a deunydd darllen a sgwrsio’n gymdeithasol gyda’r cleifion.       

Dyma ffordd grêt i ffrindiau a chyplau wirfoddoli fel tîm neu’n unigol er mwyn helpu i wasanaethu pawb sydd mewn ysbyty, yn staff a chleifion. Byddai’r rownd gyda’r nos yn elwa o help pobl sydd dal yn y coleg neu’n cwblhau cynllun Gwobrau Dug Caeredin.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Sesiynau Addysg Amgen - GISDA

 
  • Dilyn polisïau a gweithdrefnau'r cwmni
  • Cefnogi staff i gynnal sesiynau llwyddiannus
  • Cefnogi myfyrwyr i gwblhau eu llyfrau gwaith
  • Rhoi cymorth 1: 1 i fyfyrwyr sy'n agored i niwed
  • Ehangu ymwybyddiaeth o gyrsiau addysg amgen megis rheoli dicter, magu hyder a chamddefnyddio sylweddau
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o'r sesiynau addysg amgen o fewn ysgolion / disgyblion ysgol
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddoli yn yr Ysgwrn (ger Trawsfynydd)


Croesawu Ymwelwyr i’r Ysgwrn.  Bydd angen rhoi croeso cynnes i ymwelwyr yr Ysgwrn. Byddwch yn gwerthu tocynnau, paned a chacen a chynnyrch siop ac yn rhannu gwybodaeth am y safle.  Tywys pobl yn y Ffermdy.  Mae deall stori’r Ysgwrn yn rhan  bwysig o brofiad yr ymwelydd.  Byddwch yn gofalu am ymwelwyr yn y ffermdy eiconig, a chynnig gwybodaeth gyffredinol am hanes Hedd Wyn, Yr Ysgwrn a’r Gadair Ddu.  Helpu yn yr Ardd.  Mae yna ddwy ardd o flaen y ffermdy fydd gofal gan wirfoddolwyr brwd. Byddwch yn plannu a chwynnu pan fo angen, a sgwrsio gydag ymwelwyr pan mae’r haul yn tywynnu!  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Arweinwyr Sgowtiaid a Cynorthwy-ydd Beavers (Bethesda)


Dyma adran newydd o fewn grŵp sydd eisoes yn bodoli. Mae Beavers ar gyfer merched a bechgyn rhwng 6-8 mlwydd oed. Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael megis Arweinwyr Sgowtiaid Beaver neu Cynorthwy-ydd Adran Sgowtiaid Beavers . Mae'r rolau yn cynnwys cynllunio a rhedeg rhaglen amrywiol o gemau a gweithgareddau gyda'r Sgowtiaid Beaver. Darperir hyfforddiant am ddim a gellir ei achredu gan Rwydwaith y Coleg Agored. Mae'r Sgowtiaid yn ymwneud â chael hwyl a gwneud ffrindiau newydd, mae'n wych i wella eich CV a gwneud cyfraniad i fywydau pobl ifanc a'r gymuned leol. Bydd y grŵp yn cyfarfod bob dydd Mawrth ym Methesda rhwng 5.45pm - 6:45pm.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Dysgu Gyda'n Gilydd


Mae gwirfoddolwyr yn rhoi cymorth i ddisgyblion am awr neu ddwy bob wythnos, mewn ysgolion neu leoliadau yn y gymuned, yn gwrando arnyn nhw’n darllen, yn rhoi help ychwanegol gyda Mathemateg neu bynciau eraill. Neu, byddan nhw’n cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau - o arddio, coginio, drama i weu.  Y peth pwysig yw’r rhyngweithio rheolaidd personol (sy’n cael ei arolygu bob amser gan athrawon neu staff.) Gall 10 munud y diwrnod yn unig yn gwrando ar blant yn darllen wneud gwahaniaeth mawr i’w gallu a’u hyder cyffredinol.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

02/02/2017

Gwaith Derbynfa – Harlech and Ardudwy Leisure


 
·         Ateb y ffon.
·         Cymeryd negeseuon.
·         Defnyddio y til.
·         Cadw cofnod.
·         Delio gyda cwsmeriaid.
·         Rhywfaint o waith cyfrifiadurol.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwydd mewn caffi – Harlech and Ardudwy Leisure


 
·         Cymeryd bwyd allan.
·         Glanhau y byrddau ac yyb.
·         Golchi llestri ac eu cadw yn daclus.
·         Gwneud te a coffi.
·         Gweini cwsmeriaid.
·         Defnyddio y til.
·         Glanhau cyffredinol.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Marchnata – Harlech and Ardudwy Leisure


Person profiadol, egniol, a brwdfrydig sydd eu angen i gydlynnu ac i gydweithio a Rheolwr, a bwrdd y Ganolfan Hamdden  yn Harlech er mwyn meddwl ,paratoi, a bod yn gallu llwyddo yn effeithiol i farchnata y pwll nofio, y wal ddringo ac y caffi gan weithio gyda cyllid bach.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com