Dyma adran newydd o fewn grŵp sydd eisoes yn bodoli. Mae
Beavers ar gyfer merched a bechgyn rhwng 6-8 mlwydd oed. Mae cyfleoedd
gwirfoddoli ar gael megis Arweinwyr Sgowtiaid Beaver neu Cynorthwy-ydd Adran
Sgowtiaid Beavers . Mae'r rolau yn cynnwys cynllunio a rhedeg rhaglen amrywiol
o gemau a gweithgareddau gyda'r Sgowtiaid Beaver. Darperir hyfforddiant am ddim
a gellir ei achredu gan Rwydwaith y Coleg Agored. Mae'r Sgowtiaid yn ymwneud â
chael hwyl a gwneud ffrindiau newydd, mae'n wych i wella eich CV a gwneud
cyfraniad i fywydau pobl ifanc a'r gymuned leol. Bydd y grŵp yn cyfarfod bob
dydd Mawrth ym Methesda rhwng 5.45pm - 6:45pm. Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell
Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com