Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

08/02/2017

Gwirfoddoli yn yr Ysgwrn (ger Trawsfynydd)


Croesawu Ymwelwyr i’r Ysgwrn.  Bydd angen rhoi croeso cynnes i ymwelwyr yr Ysgwrn. Byddwch yn gwerthu tocynnau, paned a chacen a chynnyrch siop ac yn rhannu gwybodaeth am y safle.  Tywys pobl yn y Ffermdy.  Mae deall stori’r Ysgwrn yn rhan  bwysig o brofiad yr ymwelydd.  Byddwch yn gofalu am ymwelwyr yn y ffermdy eiconig, a chynnig gwybodaeth gyffredinol am hanes Hedd Wyn, Yr Ysgwrn a’r Gadair Ddu.  Helpu yn yr Ardd.  Mae yna ddwy ardd o flaen y ffermdy fydd gofal gan wirfoddolwyr brwd. Byddwch yn plannu a chwynnu pan fo angen, a sgwrsio gydag ymwelwyr pan mae’r haul yn tywynnu!  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com