Mae gwirfoddolwyr yn rhoi cymorth i ddisgyblion am awr
neu ddwy bob wythnos, mewn ysgolion neu leoliadau yn y gymuned, yn gwrando
arnyn nhw’n darllen, yn rhoi help ychwanegol gyda Mathemateg neu bynciau
eraill. Neu, byddan nhw’n cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau - o
arddio, coginio, drama i weu. Y peth
pwysig yw’r rhyngweithio rheolaidd personol (sy’n cael ei arolygu bob amser gan
athrawon neu staff.) Gall 10 munud y diwrnod yn unig yn gwrando ar blant yn
darllen wneud gwahaniaeth mawr i’w gallu a’u hyder cyffredinol. Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell
Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com