Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

10/05/2017

Gwirfoddolwr/aig ysgrifenyddol – Royal Voluntary Service


Mae gwirfoddolwyr yn darparu cefnogaeth ysgrifenyddol hanfodol yn ein swyddfa. Mae hyn yn cynnwys cofnodi data, prosesu anfonebau , cymryd cofnodion a chynnal cyflenwadau swyddfa . Mae hon yn rôl gyffrous gyda chyfleoedd datblygu gyrfa gwych. Mae'r rôl yn hanfodol i ganiatáu datblygu ac ehangu gwasanaethau'r RVS gan helpu i roi diwedd ar unigrwydd.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 new gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwy-ydd Siop Oxfam, Porthmadog


 
1.Gwasanaeth cwsmer-delio gyda cwsmeriaid
2. Dyletswyddau til-hyfforddiant ar gael os oes angen
3.Prosesu,didoli a phrisio eitemau i'w gwerthu yn y siop
4. Gweithio fel tîm
5. Uwchlwytho cynnwys ar ein siop ar-lein 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 new gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Mentor / cyfaill gwirfoddol – SOVA ACE (Achieving Change Through Employment)


Rydym yn chwilio am fentoriaid gwirfoddol i weithio gyda'n cleientiau i oresgyn unigedd cymdeithasol a chynyddu integreiddio o fewn y gymuned. Mae llawer o'n cleientiau yn gwynebu rhwystrau ieithyddol a diwylliannol wedi iddynt symud i fyw i'r DU neu'r sawl sydd mewn lloches.

Rôl y gwirfoddolwyr fydd cefnogi'r cleientiau i oresgyn y rhwystrau hyn drwy gyfeillio a chwrdd gyda nhw yn reolaidd mewn lleoliad anffurfiol (e.e caffi ) i ddarparu cefnogaeth chyfle i gymdeithasu.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 new gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Swyddog Recriwtio Gwirfoddol - Cwn Tywys


Cefnogi’r Cydlynydd Datblygu Gwirfoddolwyr i recriwtio gwirfoddolwyr a hyrwyddo manteision gwirfoddoli gyda’r elusen Cŵn Tywys.

• Canfod lleoliadau i ddosbarthu gohebiaeth gwirfoddoli gyda’r elusen Cŵn Tywys yn yr ardal leol e.e. llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, canolfannau chwaraeon a hamdden
• Helpu i ganfod, cynllunio a mynd i leoliadau addas i ddiwrnodau gwybodaeth yn yr ardal leol, a mynd i ddigwyddiadau/ffeiriau gwirfoddoli lleol
• Hyrwyddo ein cyfleoedd gwirfoddoli yn y gymuned a chydag asiantaethau allweddol fel Canolfannau Gwirfoddoli lleol
• Ymchwilio a chanfod cyfleoedd yn y cyfryngau i dargedu recriwtio gwirfoddolwyr yn eich ardal leol.
• Cefnogi’r Cydlynydd Datblygu Gwirfoddolwyr gydag unrhyw ddigwyddiadau Gwirfoddoli Gweithwyr\Gwirfoddolwyr Corfforaethol lleol lle bo hynny’n bosib
• Helpu i recordio straeon gan ein gwirfoddolwyr yn yr ardal leol i greu amrywiaeth o astudiaethau achos i hyrwyddo recriwtio

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 new gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Darparu Gwasanaeth Ysgolion NSPCC (ChildLine)


 
Mae Gwasanaeth Ysgolion NSPCC yn apelio am siaradwyr Cymraeg yn enwedig yng Ngwynedd i helpu i gyflwyno rhaglen arloesol i bob un ysgol gynradd leol yng Ngogledd Cymru. 

Mae Gwasanaeth Ysgolion ChildLine yn hyfforddi gwirfoddolwyr i ymweld ag ysgolion cynradd a thrafod cam-drin (gan gynnwys bwlio)gyda phlant rhwng 5 ac 11 oed mewn modd sy'n briodol i'w hoedran. Drwy wasanaethau ysgolion a gweithdai, mae'n rhoi'r sgiliau i bobl ifanc allu amddiffyn eu hunain ac mae'n esbonio ble i fynd i gael help.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 new gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

03/05/2017

Gwyliwr Arfordir - National Coastwatch Institution


Gwylwyr yw llygaid a chlustiau ar hyd ein harfordir sy'n cadw golwg,  monitro sianeli radio a gwneud defnydd llawn o'n ysbienddrych a telesgopau, offeryniaeth tywydd a chyswllt ffôn gyda Gwylwyr y Glannau Caergybi.
 
Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Gwasanaeth Tystion Llys Caernarfon – Gwasanaeth Tystion Cyngor ar Bopeth


Mae’r Gwasanaeth Tystion yn darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i dystion er mwyn iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu ac yn wybodus ac yn gallu rhoi eu tystiolaeth orau yn y llys. 

Mae’r prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau’n cynnwys cyfarfod â thystion y tu allan i amgylchedd y llys, naill ai yn eu cartref neu mewn lle diogel arall y cytunwyd arno, i asesu eu hanghenion a darparu cymorth. Datblygu cynllun paratoi a chymorth wedi’i deilwra gyda’r tyst, a lle bo’n briodol, ei ofalwr/gweithiwr cymorth/rhiant/gwarcheidwad. 

Pwrpas y paratoi a’r cymorth hwn yw helpu i leddfu pryder a thrawma a’u galluogi i roi’r dystiolaeth orau. Darperir hyfforddiant a chefnogaeth.
 
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Teuluoedd yn Gyntaf – Llysgenhadon sy’n Rhieni ‘Five to Thrive’ (DS: Rhaid i wirfoddolwyr fod â phrofiad blaenorol o ddulliau gweithredu ‘Five to Thrive’ Barnardo’s)


Mae Llysgennad sy’n Rhiant yn rhiant sydd â phrofiad personol o ddulliau gweithredu ‘Five to Thrive’ mewn rhyw ffordd, ac yn ddigon brwdfrydig am effaith y cynllun i fod eisiau ei rannu ag eraill. 

Mae’r rôl yn cynnwys hwyluso gweithgareddau ‘Five to Thrive’ mewn grŵp a sesiynau un-i-un gyda rhieni a phlant, er mwyn eu galluogi i wella eu sgiliau a gwybodaeth magu plant. Mae hyn yn cynnwys cynllunio, paratoi, cyflwyno, cofnodi a gwerthuso gweithgareddau.

Bydd Llysgenhadon sy’n Rhieni’n rhannu eu gwybodaeth am ddulliau gweithredu ‘Five to Thrive’ drwy: 

1. Cynnal grwpiau ‘Five to Thrive’ ar gyfer rhieni sy’n symud ymlaen o raglenni strwythuredig magu plant Barnardo’s.

2. Rhannu sesiynau ‘Five to Thrive’ gyda rhieni sydd eisoes yn mynychu grwpiau o fewn cymunedau lleol.

3. Darparu cefnogaeth un-i-un i rieni, er mwyn eu galluogi i gynnwys cynllun ‘Five to Thrive’ yn eu bywydau teuluol.
 
Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com