Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

10/05/2017

Darparu Gwasanaeth Ysgolion NSPCC (ChildLine)


 
Mae Gwasanaeth Ysgolion NSPCC yn apelio am siaradwyr Cymraeg yn enwedig yng Ngwynedd i helpu i gyflwyno rhaglen arloesol i bob un ysgol gynradd leol yng Ngogledd Cymru. 

Mae Gwasanaeth Ysgolion ChildLine yn hyfforddi gwirfoddolwyr i ymweld ag ysgolion cynradd a thrafod cam-drin (gan gynnwys bwlio)gyda phlant rhwng 5 ac 11 oed mewn modd sy'n briodol i'w hoedran. Drwy wasanaethau ysgolion a gweithdai, mae'n rhoi'r sgiliau i bobl ifanc allu amddiffyn eu hunain ac mae'n esbonio ble i fynd i gael help.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 new gwirfoddoli@mantellgwynedd.com