Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

03/05/2017

Teuluoedd yn Gyntaf – Llysgenhadon sy’n Rhieni ‘Five to Thrive’ (DS: Rhaid i wirfoddolwyr fod â phrofiad blaenorol o ddulliau gweithredu ‘Five to Thrive’ Barnardo’s)


Mae Llysgennad sy’n Rhiant yn rhiant sydd â phrofiad personol o ddulliau gweithredu ‘Five to Thrive’ mewn rhyw ffordd, ac yn ddigon brwdfrydig am effaith y cynllun i fod eisiau ei rannu ag eraill. 

Mae’r rôl yn cynnwys hwyluso gweithgareddau ‘Five to Thrive’ mewn grŵp a sesiynau un-i-un gyda rhieni a phlant, er mwyn eu galluogi i wella eu sgiliau a gwybodaeth magu plant. Mae hyn yn cynnwys cynllunio, paratoi, cyflwyno, cofnodi a gwerthuso gweithgareddau.

Bydd Llysgenhadon sy’n Rhieni’n rhannu eu gwybodaeth am ddulliau gweithredu ‘Five to Thrive’ drwy: 

1. Cynnal grwpiau ‘Five to Thrive’ ar gyfer rhieni sy’n symud ymlaen o raglenni strwythuredig magu plant Barnardo’s.

2. Rhannu sesiynau ‘Five to Thrive’ gyda rhieni sydd eisoes yn mynychu grwpiau o fewn cymunedau lleol.

3. Darparu cefnogaeth un-i-un i rieni, er mwyn eu galluogi i gynnwys cynllun ‘Five to Thrive’ yn eu bywydau teuluol.
 
Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com