Mae’r Gwasanaeth Tystion yn darparu cymorth ymarferol ac
emosiynol i dystion er mwyn iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu
parchu ac yn wybodus ac yn gallu rhoi eu tystiolaeth orau yn y llys.
Mae’r prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau’n cynnwys
cyfarfod â thystion y tu allan i amgylchedd y llys, naill ai yn eu cartref neu
mewn lle diogel arall y cytunwyd arno, i asesu eu hanghenion a darparu cymorth.
Datblygu cynllun paratoi a chymorth wedi’i deilwra gyda’r tyst, a lle bo’n
briodol, ei ofalwr/gweithiwr cymorth/rhiant/gwarcheidwad.
Pwrpas y paratoi a’r cymorth hwn yw helpu i leddfu pryder
a thrawma a’u galluogi i roi’r dystiolaeth orau. Darperir hyfforddiant a
chefnogaeth.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com