Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

31/05/2017

Gwirfoddolwyr Cefnogol Dementia RED - Cymdeithas Alzheimer’s


Byddwch yn gyfrifol am weithredu fel cynrychiolydd o Gymdeithas Alzheimer yn allanol drwy gynnal cysylltiadau gyda meddygfeydd teulu. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog, ar lafar ac yn ysgrifenedig a phrofiad o ddarparu gwybodaeth a chymorth. Bydd Mannau Gwybodaeth yn cael eu lleoli a'i staffio mewn meddygfeydd teulu. Bydd  'Canolfan Pwynt Gwybodaeth Dementia Care RED ' yn helpu pobl sy'n poeni am neu gyda dementia, eu gofalwyr / teuluoedd a phobl eraill berthnasol i gael gwybodaeth a chyfeiriadau priodol i wasanaethau cymorth cymunedol sy'n darparu cymorth mawr ei angen. Darparu gwybodaeth i unigolion trwy ddosbarthu gwybodaeth a chyfeirio'n briodol i gefnogi pobl i fyw yn dda gyda gwasanaethau cymorth cymunedol dementia.

Helpu pobl sy'n pryderu am eu hunain neu gof rhywun arall i ymdopi a deall y cyflwr yn well.

24/05/2017

Gwirfoddolwyr Siop a Chaffi. Dydd Llun 1pm-4pm - Ysbyty Gwynedd


Mae siopau RVS , caffi a throli yn gwasanaethu cleifion mewn ysbytai, y staff ac ymwelwyr gyda chynhesrwydd ychwanegol o gyfeillgarwch a dealltwriaeth gan in gwirfoddolwyr.

Mae angen gwirfoddolwyr i helpu i redeg y gwasanaeth , gwasanaethu cwsmeriaid, cymryd taliadau wrth y til , paratoi diodydd neu fyrbrydau a bod yn glust i wrando .

Mae gwirfoddolwyr yn sicrhau bod y siop yn cael ei stocio'n briodol ac y caiff ei gadw'n lân a thaclus fel y disgwylir mewn amgylchedd ysbyty.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 17+.  Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cymdeithas Cŵn Tywys - Cydlynydd blychau casglu


Cydlynu blychau casglu yn eich ardal lleol i codi arian ar gyfer Cymdeithas Cŵn Tywys. Mae Cymdeithas Cŵn Tywys helpu rhoi  rhyddid i bobl ddall a rhannol ddall drwy ein gwasanaethau cŵn. Rydym hefyd yn ymgyrchu dros hawliau pobl â nam ar eu golwg, addysgu'r cyhoedd am ofal llygaid ac ymchwil clefydau llygaid.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

17/05/2017

Gwirfoddolwyr codi arian – Y Groes Goch Brydeinig


Mae codi arian yn hwyl, yn rhoi boddhad ac yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd. Byddwch yn dysgu llawer am waith y Groes Goch a chwrdd â phobl sy'n ymwneud â gwahanol agweddau yn y gymdeithas. Ni fydd yna eiliad ddiflas gan fod bob agwedd o'r rôl yma yn wahanol o dreulio ychydig oriau fel casglwr mewn archfarchnad i drefnu digwyddiad codi arian eich hun neu gymryd rhan yn wythnos flynyddol Y Groes Goch.

Mae tasgau yn cynnwys:

-Cymryd rhan yn Wythnos Apêl Groes Goch
-Cymryd rhan mewn casgliadau, gan gynnwys codi arian ar gyfer apeliadau brys
-Trefnu eich digwyddiadau codi arian eich hun
-Cydgysylltu tuniau casglu yn eich ardal leol
-Helpu gyda gwaith gweinyddol cyffredinol i godi arian 

Mae’r cyfle yma yn addas i oedran 15+ 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr ‘Camau Cadarn’ – Y Groes Goch Brydeinig


A ydych chi'n rhywun sy'n hoffi pobl?  A fyddech chi'n gallu helpu person sy'n unig neu'n fregus i gael eu traed oddi tanynt unwaith eto?

Mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio ar gynnal a meithrin lles ymhlith defnyddwyr ein gwasanaeth.  Mae'r rôl yn cynnwys adnabod yr hyn a allai fod o fudd i'r unigolyn, eu cyfeirio at wasanathau eraill, eu grymuso a'u galluogi i weithio tuag at gyflawni nodau personol.  Mae’r cyfle yma yn addas i oedran 18+

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Adnodd Dysgu – Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru


Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd yn gallu helpu ni i ymchwilio hanesion o dreftadaeth heddwch Cymru dros y ganrif ddiwethaf.

Y syniad ydi i droi nhw i mewn i adnoddau dysgu hawdd ei gyrraedd sydd ynghlwm i'r cwricwlwm Cymraeg.  Mi fydd y storïau yn canolbwyntio ar themâu allweddol i'r prosiect Cymru Dros Heddwch sef storïau milwyr, hanes heddychwyr, chwilwyr gwallgofdy a ffoaduriaid, rôl fenywod a chydweithrediad rhyngwladol.  Mi fydd yr adnoddau ar gael ar lein yn ddwyieithog. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Aelod tim codi arian – Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru


Hoffech fod yn rhan o dîm cyfeillgar a bywiog? Allech chi helpu  i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau? Gall rhain gynnwys partïon te, casgliadau mewn siopau, cwisiau tafarn, rafflau neu unrhyw beth arall y credwch y byddai'n ffordd hwyliog o godi arian yn eich cymuned. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig sy'n llawn syniadau i ymuno â'n Grŵp Codi Arian yn eich cymuned leol.
 
Beth fyddwch chi'n ei wneud?
 
-Mynychu cyfarfodydd Codi Arian
-Helpu i drefnu a rheoli digwyddiadau
-Codi Arian
-Cynrychioli'r mudiad NWSB
-Adeiladu perthynas 

Gyda'ch cefnogaeth gallwn wneud gwahaniaeth go iawn i fwy o bobl sy'n byw gyda cholled golwg.  Mae’r cyfle yma yn addas i oedran 16+ 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Gweinyddu Digwyddiadau Cynorthwyol – RSPB Cymru


Mae'r RSPB yn elusen gadwraeth natur mwyaf y wlad. Trwy wirfoddoli gyda'n Swyddog Datblygu , byddwch yn gweithio'n agos gyda'n hamserlen digwyddiadau ac adeiladu ar eich sgiliau TG a chyfathrebu. Byddwn yn darparu amrywiaeth o dasgau i chi a bydd eich lle yn y tîm yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Byddwch yn derbyn adborth a chyfeiriadau rheolaidd i'ch cefnogi yn eich gyrfa yn y dyfodol.

Mae RSPB Cymru yn anelu at gynyddu ei aelodaeth drwy Gymr ac mae ymgyrchau recriwtio yn cael eu gwneud ar draws y wlad. Mae gwirfoddolwyr swyddfa yn bwysig i'n helpu i symleiddio ein gweithrediadau. Gall eich amser a sgiliau wneud gwahaniaeth wirioneddol i waith yr RSPB a byddai'n wych pe gallech fod yn rhan o'r tîm.  Mae’r cyfle yma yn addas i bob oedran.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com