Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

17/05/2017

Aelod tim codi arian – Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru


Hoffech fod yn rhan o dîm cyfeillgar a bywiog? Allech chi helpu  i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau? Gall rhain gynnwys partïon te, casgliadau mewn siopau, cwisiau tafarn, rafflau neu unrhyw beth arall y credwch y byddai'n ffordd hwyliog o godi arian yn eich cymuned. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig sy'n llawn syniadau i ymuno â'n Grŵp Codi Arian yn eich cymuned leol.
 
Beth fyddwch chi'n ei wneud?
 
-Mynychu cyfarfodydd Codi Arian
-Helpu i drefnu a rheoli digwyddiadau
-Codi Arian
-Cynrychioli'r mudiad NWSB
-Adeiladu perthynas 

Gyda'ch cefnogaeth gallwn wneud gwahaniaeth go iawn i fwy o bobl sy'n byw gyda cholled golwg.  Mae’r cyfle yma yn addas i oedran 16+ 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com