A ydych chi'n rhywun sy'n hoffi pobl? A fyddech chi'n gallu helpu person sy'n unig
neu'n fregus i gael eu traed oddi tanynt unwaith eto?
Mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio ar gynnal a meithrin
lles ymhlith defnyddwyr ein gwasanaeth.
Mae'r rôl yn cynnwys adnabod yr hyn a allai fod o fudd i'r unigolyn, eu
cyfeirio at wasanathau eraill, eu grymuso a'u galluogi i weithio tuag at
gyflawni nodau personol. Mae’r cyfle yma
yn addas i oedran 18+
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com