Mae codi arian yn hwyl, yn rhoi boddhad ac yn gyfle gwych
i gwrdd â phobl newydd. Byddwch yn dysgu llawer am waith y Groes Goch a chwrdd
â phobl sy'n ymwneud â gwahanol agweddau yn y gymdeithas. Ni fydd yna eiliad
ddiflas gan fod bob agwedd o'r rôl yma yn wahanol o dreulio ychydig oriau fel
casglwr mewn archfarchnad i drefnu digwyddiad codi arian eich hun neu gymryd
rhan yn wythnos flynyddol Y Groes Goch.
Mae tasgau yn cynnwys:
-Cymryd rhan yn Wythnos Apêl Groes Goch
-Cymryd rhan mewn casgliadau, gan gynnwys codi arian ar
gyfer apeliadau brys
-Trefnu eich digwyddiadau codi arian eich hun
-Cydgysylltu tuniau casglu yn eich ardal leol
-Helpu gyda gwaith gweinyddol cyffredinol i godi arian
Mae’r cyfle yma yn addas i oedran 15+
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com