Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

04/10/2017

Trawsgrifydd, Llyfr y Cofio i'r Rhyfel Byd Cyntaf – Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru

I gefnogi'r enwau terfynol sy'n cael eu mewnbynnu i beiriant chwilio i ganiatáu i'r cyhoedd ddefnyddio fersiwn digidol y Llyfr yn llawn. Drwy ddilyn cyfarwyddiadau uniongyrchol, gellir gwneud hyn ar-lein lle bynnag y mae'r cyfranogwr yn dewis.  Mae’r cyfle yma yn addas i bob oedran.


Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Go Pink! – Aldi Bangor 28 Hydref 2017 - Tenovus Cancer Care

 
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr fyddai'n gallu rhoi ychydig o oriau ar gyfer ein digwyddiad nesaf yn Aldi, Bangor ar yr 28ain Hydref.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Recriwtwyr gwirfoddol gyda Ochr yn Ochr – Y Gymdeithas Alzheimer’s

Pam mae angen chi?

Mae recriwtwyr i wirfoddoli yn agor calonnau a meddyliau ein gwirfoddolwyr ac yn chwarae rhan allweddol yn ein cymuned. Fel recriwtwr gwirfoddoli, byddwch yn cysylltu pobl â chyfleoedd gwirfoddoli a'u cefnogi i gymryd rhan.  Oes gennych yr hyn sydd ei angen i helpu pobl sy'n cael eu heffeithio gan ddementia?   

Bydd y rôl hon yn addas i chi os ydych â ...

Diddordeb mewn cefnogi gwirfoddolwyr posibl i gydnabod eu sgiliau a'u profiadau.

Gallu i roi grym i eraill a mwynhau gwneud i bobl deimlo yn groesawgar. 

Yr effaith y byddwch yn ei roi ...
Byddwch yn chwarae rhan annatod o ran cefnogi a galluogi gwirfoddolwyr i ddod o hyd i swyddogaethau lle byddant yn wirioneddol drawsnewid bywydau pobl sy'n byw gyda demensia.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Ochr yn Ochr – Y Gymdeithas Alzheimer’s


Mae Ochr yn Ochr yn wasanaeth Cymdeithas Alzheimer sy'n helpu pobl â demensia i barhau i wneud y pethau maen nhw'n eu caru a chael mynd allan drwy gefnogaeth gwirfoddolwr. Gall y cymorth ychwanegol hwn ei gwneud hi'n haws i bobl â demensia wneud pethau rydym ni yn cymryd yn ganiataol a theimlo'n rhan o'u cymuned. 

Gallech gefnogi person â dementia i wneud y canlynol - mynd i'r parc lleol, i'r sinema, codi hen hobi, ymweld ag amgueddfeydd lleol, ceisio gweithgaredd hamdden newydd neu aros gartref a sgwrsio. Mae yna opsiwn hefyd ar gyfer cefnogaeth dros y ffôn, lle gallwch chi sgwrsio dros y ffôn i'r person â dementia os fyddant angen hynny.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Ochr yn Ochr mewn ysbyty – Y Gymdeithas Alzheimer’s


Byddwch yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl sy’n byw â dementia pan fyddant yn yr ysbyty. Rhoi cyfle i rywun gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a chymdeithasol ar y ward neu helpu rhywun i ddal ati i wneud y pethau maent yn eu mwynhau – fel gwrando ar gerddoriaeth, mwynhau sgwrs dda, neu gymryd rhan yn eu hoff weithgaredd grŵp.

Mae eich cyfranogiad yn cadw pobl â dementia mewn cysylltiad â'r byd o’u cwmpas, yn sicrhau eu bod yn teimlo’n llai unig pan fyddant yn yr ysbyty drwy ganolbwyntio ar gryfderau’r unigolyn a'r hyn fyddai orau ganddynt i gadw’n brysur ac yn fwy hyderus.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr cymorth dysgu Ochr yn Ochr - Y Gymdeithas Alzheimer’s


Bydd gwirfoddolwyr cymorth dysgu yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi, datblygu a grymuso gwirfoddolwyr eraill. Bydd gwirfoddolwyr cymorth dysgu yn darparu cymorth ymarferol gan ddefnyddio llyfrau gwaith a dysgu'r Gymdeithas, yn ogystal â'u brwdfrydedd, i helpu gwirfoddolwyr i ymgymryd â dysgu yn hyderus ac yn ystyrlon. Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn ein cymuned, gan alluogi a rhoi grym i eraill.Oes gennych chi'r hyn sydd ei angen i helpu pobl sy'n cael eu heffeithio gan ddementia?  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Arweinydd gwirfoddoli Ochr yn Ochr - Y Gymdeithas Alzheimer’s

Bydd arweinwyr gwirfoddoli yn galluogi a grymuso ein gwirfoddolwyr ac yn chwarae rhan allweddol yn ein cymuned. Fel arweinydd gwirfoddoli, byddwch yn helpu i sicrhau bod ein gwirfoddolwyr yn cael eu cysylltu, eu cefnogi, eu datblygu a'u gwerthfawrogi.  Oes gennych yr hyn sydd ei angen i helpu pobl sy'n cael eu heffeithio gan ddementia? 

Bydd y rôl hon yn addas i chi os allwch ...

Ymrwymo i alluogi a grymuso eraill i chwarae eu rhan a deall bod gan bobl sgiliau a phrofiadau unigryw a gall pob un ohonynt chwarae rhan ar gyfer rhywun sy'n byw gyda dementia ac yn dda i wneud i eraill deimlo'n groesawgar, eu cefnogi, yn ogystal â'u helpu i gyrraedd eu potensial.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

27/09/2017

Grwpiau codi arian lleol – The Lullaby Trust


Rydym yn chwilio am gefnogwyr ymroddedig a brwdfrydig i ymuno gyda ni i ffurfio grwpiau codi arian lleol ar draws y DU!

Bydd y grwpiau yma yn chwarae rhan hanfodol i'n helpu i godi ymwybyddiaeth am The Lullaby Trust a'n negeseuon am gysgu'n fwy diogel ar draws y DU. Ein nod yw haneru achosion o SIDS erbyn 2020. Mae grwpiau lleol mewn sefyllfa gwych i ymgysylltu â'r gymuned ac yn adnabod y ffyrdd gorau o wneud hynny gan ddefnyddio eu rhwydweithiau a'u sgiliau. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com