Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

04/10/2017

Gwirfoddolwr cymorth dysgu Ochr yn Ochr - Y Gymdeithas Alzheimer’s


Bydd gwirfoddolwyr cymorth dysgu yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi, datblygu a grymuso gwirfoddolwyr eraill. Bydd gwirfoddolwyr cymorth dysgu yn darparu cymorth ymarferol gan ddefnyddio llyfrau gwaith a dysgu'r Gymdeithas, yn ogystal â'u brwdfrydedd, i helpu gwirfoddolwyr i ymgymryd â dysgu yn hyderus ac yn ystyrlon. Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn ein cymuned, gan alluogi a rhoi grym i eraill.Oes gennych chi'r hyn sydd ei angen i helpu pobl sy'n cael eu heffeithio gan ddementia?  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com