Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

04/10/2017

Gwirfoddolwr Ochr yn Ochr – Y Gymdeithas Alzheimer’s


Mae Ochr yn Ochr yn wasanaeth Cymdeithas Alzheimer sy'n helpu pobl â demensia i barhau i wneud y pethau maen nhw'n eu caru a chael mynd allan drwy gefnogaeth gwirfoddolwr. Gall y cymorth ychwanegol hwn ei gwneud hi'n haws i bobl â demensia wneud pethau rydym ni yn cymryd yn ganiataol a theimlo'n rhan o'u cymuned. 

Gallech gefnogi person â dementia i wneud y canlynol - mynd i'r parc lleol, i'r sinema, codi hen hobi, ymweld ag amgueddfeydd lleol, ceisio gweithgaredd hamdden newydd neu aros gartref a sgwrsio. Mae yna opsiwn hefyd ar gyfer cefnogaeth dros y ffôn, lle gallwch chi sgwrsio dros y ffôn i'r person â dementia os fyddant angen hynny.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com