Byddwch yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr sy’n canolbwyntio
ar yr unigolyn i bobl sy’n byw â dementia pan fyddant yn yr ysbyty. Rhoi cyfle
i rywun gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a chymdeithasol ar y ward neu
helpu rhywun i ddal ati i wneud y pethau maent yn eu mwynhau – fel gwrando ar
gerddoriaeth, mwynhau sgwrs dda, neu gymryd rhan yn eu hoff weithgaredd grŵp.
Mae eich cyfranogiad yn cadw pobl â dementia mewn
cysylltiad â'r byd o’u cwmpas, yn sicrhau eu bod yn teimlo’n llai unig pan
fyddant yn yr ysbyty drwy ganolbwyntio ar gryfderau’r unigolyn a'r hyn fyddai
orau ganddynt i gadw’n brysur ac yn fwy hyderus. Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com