Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

16/05/2018

Cynorthwy-ydd Digwyddiadau - Coed Cadw



Gweithio ochr yn ochr â staff Coed Cadw a gwirfoddolwyr mewn digwyddiadau i ymgysylltu â'n cynulleidfaoedd, gan gefnogi cyflwyno'r digwyddiadau hyn.  Bydd hwn yn gyfle gwych i'r rhai ohonoch sydd am gwrdd â phobl yn y gymuned ac sydd â diddordeb mewn coed, coedwigoedd ac byd natur. Mae'n ddelfrydol hefyd i wirfoddolwyr sydd am ddatblygu eu sgiliau a'u profiad ym myd twristiaeth, digwyddiadau neu’r sector cadwraeth.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 25+.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

09/05/2018

Aelod Tîm Codi Arian – Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru


Aelod Tîm Codi Arian – Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru

Hoffech fod yn rhan o dîm cyfeillgar a bywiog? Allech chi helpu

i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau? Gall y rhain gynnwys partïon te, casgliadau mewn siopau, cwisiau tafarn, rafflau neu unrhyw beth arall y credwch y byddai'n ffordd hwyliog o godi arian yn eich cymuned.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig sy'n llawn syniadau i ymuno â'n Grŵp Codi Arian yn eich cymuned leol.
Beth fyddwch chi'n ei wneud?
-Mynychu cyfarfodydd Codi Arian,
-Helpu i drefnu a rheoli digwyddiadau;
-Codi Arian,
-Cynrychioli'r mudiad NWSB;
-Adeiladu perthynas

Gyda'ch cefnogaeth gallwn wneud gwahaniaeth go iawn i fwy o bobl sy'n byw gyda cholled golwg.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.

Arweinydd Darllen Gwirfoddol – Prosiect 'Better with a Book’ gogledd Cymru


Arweinydd Darllen Gwirfoddol – Prosiect 'Better with a Book’ gogledd Cymru

Yn adeiladu ar brosiect blaenorol ‘Llais a Llyfr’ The Reader rydym yn sefydlu grwpiau Darllen ar y Cyd ar draws tair sir yng ngogledd Cymru ac yn chwilio am wirfoddolwyr yng Ngwynedd.
Diben y rôl yw galluogi i bobl elwa o brofiad Ddarllen ar y Cyd a cheisio gwella lles, cryfhau'r gymuned a lleihau ynysiad cymdeithasol.
Ar ôl cael eich paru â hwylusydd gwirfoddol arall, byddwch yn gyfrifol am gyflwyno grŵp Darllen ar y Cyd yn wythnosol.

Buddiannau’n cynnwys:
- Bod yn rhan o’r gymuned Darllen ar y Cyd  a chyfarfod pobl newydd
- Galluogi pobl eraill i elwa o Ddarllen ar y Cyd
- Hyfforddiant a fydd yn galluogi i chi gyflwyno Darllen ar y Cyd.

Bydd angen i chi gymryd rhan yn ein rhaglen hyfforddi ‘Read to Lead’ a mynychu cyfarfodydd gwirfoddolwyr yn rheolaidd. Rydym yn gofyn i chi ymrwymo’n rheolaidd bob wythnos i baratoi a hwyluso grŵp Darllen ar y Cyd, gan weithio dan oruchwyliaeth a gyda chymorth cyfoedion a staff The Reader.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.

Gwaith swyddfa yn y ganolfan achub anifeiliaid (Nebo ger Caernarfon) - Freshfields


Gwaith swyddfa yn y ganolfan achub anifeiliaid (Nebo ger Caernarfon)
-       Freshfields

Angen cymorth yn ein swyddfa yn y ganolfan achub anifeiliaid. Unrhyw oriau. Unrhyw ddiwrnod. Gwybodaeth am weithdrefnau Iechyd a Diogelwch yn fanteisiol.
Rhaid bod a chariad at anifeiliaid. Fyddai'n ddelfrydol i berson sydd wedi ymddeol.
Os oes gennych ddiddordeb, galwch heibio'r ganolfan rhwng 10.30am - 2.30pm neu ffoniwch 01286 479711.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.

25/04/2018

Cynorthwy-ydd Siop – Hosbis Dewi Sant, Porthmadog




I gynorthwyo yn ein siop Hosbis Porthmadog, ailgyflenwi stoc, gweithredu'n weithredol a chynorthwyo cwsmeriaid.



EIN SIOPAU

Mae gan Hosbis Dewi Sant rwydwaith o siopau ar draws gogledd orllewin Cymru, gan werthu dillad ail-law, bric a brac a dodrefn o ansawdd da.

Er ein bod yn elusen, rydym yn rhedeg ein siopau fel y busnesau bach.

Diolch i gefnogaeth barhaus y gymuned, mae'r siopau Hosbis yn cynhyrchu ffrwd hanfodol o incwm a chynaliadwy i'r Hosbis.

Mae llwyddiant ein siopau yn dibynnu ar haelioni rhoddion o ansawdd da gan y cyhoedd.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 18+.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Gyrru Clwb Cinio Bangor – Royal Voluntary Service




Mae angen gwirfoddolwyr i ddarparu cludiant i bobl hŷn i Glwb Cinio Bangor. Mae'r clwb bron yn barod i'w lansio ond heb yrwyr gwirfoddol ar hyn o bryd. Byddwch yn ymuno â thîm o 11 o wirfoddolwyr, cymysgedd o fyfyrwyr a phobl leol. Mae gennym grŵp o bobl hyn sy'n aros i fynychu'r clwb ond heb yrwyr, ni allwn lansio.


Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Stiwardiaid Arddangosfa – Welsh Women’s Aid




Mae Forty Voices, Forty Years, yn brosiect treftadaeth gyffrous sy'n cael ei arwain gan Gymorth i Fenywod yng Nghymru ar y cyd â Chanolfan Straeon George Ewart Evans ym Mhrifysgol De Cymru. Nod y prosiect yw casglu hanes Cymorth i Fenywod Cymru a chofio ein gwaith i orffen trais yn erbyn menywod, gyda chasgliad o hanesion llafar, storïau digidol, deunyddiau arddangos ac archif gan ferched a gwasanaethau sydd wedi bod yn allweddol i'n mudiad yng Nghymru.



Bydd y prosiect yn gwella ein dealltwriaeth o'r mudiad trais yn erbyn menywod yng Nghymru, a gwella gwybodaeth y gymuned am drais yn erbyn menywod a'n gwaith i'w atal.



Rydym yn edrych am gefnogaeth gan wirfoddolwyr benywaidd gyda sgiliau addas a dealltwriaeth o drais yn erbyn menywod yng Nghymru a diddordeb ganddynt i weithio mewn ardaloedd lleol ledled Cymru i gefnogi'r Forty Voices, Cyswllt Prosiect Deugain Mlynedd. Rhoddir hyfforddiant llawn. Am fwy o wybodaeth ewch i www.welshwomensaid.org.uk/joinus neu  cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Ras am Fywyd 2018 (Caernarfon)




Pa bynnag amser neu sgiliau sydd ganddoch, mae gennym ni'r rôl berffaith i chi. Dewch â'ch egni, eich gwen a'ch angerdd i'r digwyddiad yma a gadewch i ni guro canser yn gynt gyda'i gilydd.



Dewch i helpu trwy wirfoddoli yn y digwyddiad 5k ym Mharc Coed Helen yng Nghaernarfon ar 20fed Mai 2018.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com neu cliciwch yma:
https://raceforlife.cancerresearchuk.org/about-our-events/volunteer