Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

09/05/2018

Aelod Tîm Codi Arian – Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru


Aelod Tîm Codi Arian – Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru

Hoffech fod yn rhan o dîm cyfeillgar a bywiog? Allech chi helpu

i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau? Gall y rhain gynnwys partïon te, casgliadau mewn siopau, cwisiau tafarn, rafflau neu unrhyw beth arall y credwch y byddai'n ffordd hwyliog o godi arian yn eich cymuned.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig sy'n llawn syniadau i ymuno â'n Grŵp Codi Arian yn eich cymuned leol.
Beth fyddwch chi'n ei wneud?
-Mynychu cyfarfodydd Codi Arian,
-Helpu i drefnu a rheoli digwyddiadau;
-Codi Arian,
-Cynrychioli'r mudiad NWSB;
-Adeiladu perthynas

Gyda'ch cefnogaeth gallwn wneud gwahaniaeth go iawn i fwy o bobl sy'n byw gyda cholled golwg.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.