Arweinydd
Darllen Gwirfoddol – Prosiect 'Better with a Book’ gogledd Cymru
Yn adeiladu ar brosiect blaenorol ‘Llais a Llyfr’ The
Reader rydym yn sefydlu grwpiau Darllen ar y Cyd ar draws tair sir yng ngogledd
Cymru ac yn chwilio am wirfoddolwyr yng Ngwynedd.
Diben y rôl yw galluogi i bobl elwa o brofiad Ddarllen ar
y Cyd a cheisio gwella lles, cryfhau'r gymuned a lleihau ynysiad cymdeithasol.
Ar ôl cael eich paru â hwylusydd gwirfoddol arall,
byddwch yn gyfrifol am gyflwyno grŵp Darllen ar y Cyd yn wythnosol.
Buddiannau’n cynnwys:
- Bod yn rhan o’r gymuned Darllen ar y Cyd a chyfarfod pobl newydd
- Galluogi pobl eraill i elwa o Ddarllen ar y Cyd
- Hyfforddiant a fydd yn galluogi i chi gyflwyno Darllen
ar y Cyd.
Bydd angen i chi gymryd rhan yn ein rhaglen hyfforddi
‘Read to Lead’ a mynychu cyfarfodydd gwirfoddolwyr yn rheolaidd. Rydym yn gofyn
i chi ymrwymo’n rheolaidd bob wythnos i baratoi a hwyluso grŵp Darllen ar y
Cyd, gan weithio dan oruchwyliaeth a gyda chymorth cyfoedion a staff The
Reader.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.