Cyfle gwych i gyfrannu at gwella dehongli a dealltwriaeth o gasgliad pren wedi ei ddifrodi sydd wedi ei leoli yn Adeilad Thoday. Y prif dasgau fydd:-
Gwneud ymchwil i gefndir y sbesimenau sydd ar gael yn y casgliad pren wedi ei ddifa. Bydd yr ymchwil yn gallu cael ei wneud adref drwy ddefnyddio’r rhyngrwyd.
Ysgrifennu darnau wedi ei grynhoi ar gefndir y sbesimenau o’r ymchwil (bydd templed yn cael ei ddefnyddio i gofnodi’r wybodaeth) fel ei bod yn bosib ail ddefnyddio ac addasu’r wybodaeth wedyn ar gyfer creu labeli ac ar y gwefan.
Bydd diddordeb neu cefndir yn y maes entomoleg, coedwigaeth neu yr amgylchedd yn hanfodol a bydd cyflwyniad yn cael ei roi ar y casgliad sydd yn y Brifysgol.
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
Cofrestru Diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

14/08/2015
Gwirfoddolwr Profiad Ymwelwyr - Amgueddfa ac Oriel Gwynedd
Oes gennych diddordeb mewn celf a hanes? Oes gennych ychydig o oriau yn rhydd yn ystod yr wythnos neu’r mis? Mae Storiel yn agor yn ystod tymor yr hydref yng nghanol Bangor. Dim amgueddfa ac oriel newydd yw hon, ond yn hytrach cyfnod newydd sbon yn hanes Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor. Byddwn yn symud i ofod newydd ac mi fydd cyfle i unigolion ymuno â ni wrth gefnogi staff Storiel i gynnig y profiad gorau y gallwn i bawb. Mae’n hanfodol gallu sgwrsio yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer y rôl hon. Nid oes angen dealltwriaeth helaeth am hanes a chelf, oherwydd bydd hyfforddiant ar gael. Bydd cyfarfod a chefnogi ymwelwyr yn elfen fawr o’ch rôl, ac mi fydd cyfle i gyfarfod pobl o led-led y byd, felly bydd sgiliau rhyngbersonol yn hanfodol. Rydym yn chwilio am hwyluswyr i’r orielau hanes, orielau celf, y siop, derbynfa, y pwynt gwybodaeth i twristiaid a'r gofod dysgu.
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
11/08/2015
Gwirfoddolwr cefnogi grwp - Tan y Maen
Oes gennych ychydig o oriau rhydd ar ddydd Gwener? Mae Canolfan Tan y Maen yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi'r grwp allanol yn Nolgellau.
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
Caplan Aml-ffydd Gwirfoddol yr Heddlu
A allech roi o leiaf dwy awr o’ch amser bob wythnos?
A oes gennych diddordeb mewn cefnogi eich swyddogion a staff heddlu lleol wrth iddyn nhw weithio i wneud Gogledd Cymru yn fwy diogel?
A allech roi cefnogaeth a chydymdeimlad i swyddogion a staff sy’n wynebu sefyllfaoedd a allent fod yn drallodus ac a fydd yn eu rhoi dan lawer iawn o bwysau? A fyddech yn fodlon treulio amser yn mynd allan gyda swyddogion a staff er mwyn cael syniad da o’r hyn y maen nhw’n ei wneud o ddydd i ddydd.
A ydych yn barod i ddysgu ynghylch yr heriau sy’n wynebu ein heddlu?
A fyddech yn gallu datblygu cyfleoedd i gefnogi swyddogion a staff yn rhyngweithiol drwy fod yn rhywun hawdd mynd atynt sy’n gallu gwrando’n effeithiol? Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dymuno recriwtio Caplan Gwirfoddol aml-ffydd i ddarparu gofal bugeiliol ac ysbrydol ar gyfer aelodau’r Heddlu a’u teuluoedd, datblygu rhwydweithiau aml-ffydd o fewn yr heddlu, cynorthwyo i ofalu am les staff, cefnogi plismona gweithredol a hwyluso ymgysylltiad.

Gwirwyr dolenau clyw (Hearing Loops) - Hearing Link
Mae llawer o siopau a banciau wedi gosod systemau dolen clyw (hearing loops), gyda'r nod o ddarparu gwasanaeth gwell i gwsmeriaid sydd â nam ar eu clyw, ond a ydynt bob amser yn gweithio?
Rôl ein gwirwyr dolenau clyw yw i ymweld â siopau a banciau lleol a chwblhau holiadur ac yn adrodd yn ôl ar y gwasanaeth a gawsoch.
Rydym yn cynnal archwiliadau dolen blynyddol ar draws y DU ac mae angen cymaint o wirfoddolwyr gan ein bod yn gallu ymgynnull i edrych ar ddolenni mewn mannau cyhoeddus a rhoi gwybod i ni os ydynt yn gweithio.
Yn ddelfrydol, dylai gwirfoddolwyr fynd allan mewn parau a dylai o leiaf un o'r gwirwyr ddefnyddio cymorth clyw.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Cynorthwyo yng nghystadleuthau Caiacio Ysgolion Gogledd Cymru - Partneriaeth Awyr Agored
Cystadleuthau Caiacio Ysgolion Gogledd Gwynedd
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn chwilio am wirfoddolwyr i gynorthwyo yng nghystadleuthau Caiacio Ysgolion Gogledd Cymru. Byddem angen unigolion i helpu gyda chadw amseroedd, marsialu ag ar gychod achub.
-Ynys Môn (lleoliad i'w gadarnhau) Dydd Mercher, Medi 30ain 10:00-15:30
-Ysgolion gogledd Cymru (Llyn Padarn) Dydd Iau, Hydref 1af. 10:00-15:30
- Ysgolion de Gwynedd (Gwersyll Glan-llyn) Dydd Gwener, Hydref 2il 10:00-15:30
- Ffeinal (Llyn Padarn) Dydd Gwener, Hydref 9fed, 10:00-15:30
Bydd crys-T a 'Buff' ar gael i bawb sy'n gwirfoddoli.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn chwilio am wirfoddolwyr i gynorthwyo yng nghystadleuthau Caiacio Ysgolion Gogledd Cymru. Byddem angen unigolion i helpu gyda chadw amseroedd, marsialu ag ar gychod achub.
-Ynys Môn (lleoliad i'w gadarnhau) Dydd Mercher, Medi 30ain 10:00-15:30
-Ysgolion gogledd Cymru (Llyn Padarn) Dydd Iau, Hydref 1af. 10:00-15:30
- Ysgolion de Gwynedd (Gwersyll Glan-llyn) Dydd Gwener, Hydref 2il 10:00-15:30
- Ffeinal (Llyn Padarn) Dydd Gwener, Hydref 9fed, 10:00-15:30
Bydd crys-T a 'Buff' ar gael i bawb sy'n gwirfoddoli.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
Dosbarthwyr gwybodaeth - Hearing Link
Mae Hearing Link yn dibynnu ar ddosbarthwyr gwybodaeth i'n helpu i wneud y sefydliad yn hysbys mewn cymunedau lleol ar draws y DU.
Bydd gwirfoddolwyr yn ymgymryd â'r rôl hon yn dosbarthu taflenni a phosteri i lyfrgelloedd, meddygfeydd, canolfannau cymunedol, ysbytai a lleoliadau eraill yn eu hardal leol, ac yna yn eu monitro i ailgyflenwi stociau yn ôl yr angen.
Byddai'r rôl hon yn addas i unrhyw un sydd â rhywfaint o amser rhydd a'r gallu i deithio o amgylch eu hardal leol.
Rydym yn annog ein holl wirfoddolwyr i gymryd y rôl hon oherwydd y pwysigrwydd o sicrhau bod ein gwybodaeth i'w cael gan y rhai a allai fod ei angen.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
Bydd gwirfoddolwyr yn ymgymryd â'r rôl hon yn dosbarthu taflenni a phosteri i lyfrgelloedd, meddygfeydd, canolfannau cymunedol, ysbytai a lleoliadau eraill yn eu hardal leol, ac yna yn eu monitro i ailgyflenwi stociau yn ôl yr angen.
Byddai'r rôl hon yn addas i unrhyw un sydd â rhywfaint o amser rhydd a'r gallu i deithio o amgylch eu hardal leol.
Rydym yn annog ein holl wirfoddolwyr i gymryd y rôl hon oherwydd y pwysigrwydd o sicrhau bod ein gwybodaeth i'w cael gan y rhai a allai fod ei angen.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
Adolygydd Lleyg Gwirfoddol - Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru
Mae angen arolygwyr lleyg gwirfoddol arnom, o amrywiaeth o gefndiroedd o Gymru benbaladr. Rydym yn enwedig yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd ag anableddau, pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol, a phobl ifanc sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd....
Mae rheolwr arolygu AGIC yn arwain y tîm arolygu, ac mae yno er mwyn eich cefnogi ar bob adeg. Byddwch yn siarad â chleifion, eu gofalwyr a'u teuluoedd er mwyn casglu gwybodaeth am brofiad y claf.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Subscribe to:
Posts (Atom)