A allwch chi neilltuo ychydig oriau yn ystod yr wythnos neu ar ddydd Sadwrn? A ydych chi wrth eich boddau â ffasiwn neu ddodrefn? A hoffech chi ennill Tystysgrif mewn Sgiliau Manwerthu wrth ichi wirfoddoli?
Yna, pan nad ymunwch â’n tîm o wirfoddolwyr Y Groes Goch Brydeinig? Yn ogystal â didoli a threfnu ein rhoddion i ddod o hyd i eitemau sy’n addas ar gyfer ardal ffasiwn neu ddodrefn benodol o’r siop, cewch gyfle i greu arddangosfeydd cyffrous neu efallai ddatblygu ardaloedd newydd, megis ardal retro. Trwy weithio fel rhan o dîm gallwch wneud ffrindiau newydd, ennill profiad gwaith gwerthfawr a gwneud gwahaniaeth yn y DU.
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com