Beth ydi gweithdy gwaith: Cyfres o sesiynau sydd yn darparu hyfforddiant ac achrediadau i
bobl ifanc i’w baratoi ar gyfer y byd gwaith. Bydd y sesiynau yn cynnwys
hyfforddiant iechyd a diogelwch, cymorth cyntaf, sgiliau cyfrifiadur, cyllidebu
ac yn y blaen.
Prif ddyletswyddau:
- Cynorthwyo’r gweithwyr i gydlynu a
rhedeg sesiynau gweithdy gwaith
- I fynd drwy hyfforddiant a llyfrau
gwaith gyda phobl ifanc
- I roi cyngor a helpu’r mynychwyr i
gwblhau’r sesiynau
- I fod yn gyfeillgar a hyderus yn y
sesiynau
- I gynorthwyo’r gyda’r gwaith trefnu
ar gyfer sesiynau
Am
fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu
gwirfoddoli@mantellgwynedd.com