Bydd y Cynorthwy-ydd Cadwraeth yn helpu i ofalu am ein casgliadau ac yn cadw at safonau cyflwyno fel y nodir yn y Llawlyfr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cadw Tŷ. Trwy gyd-weithio gyda staff cadwraeth, byddwch yn dysgu sut i ddiogelu eitemau hanesyddol fel y gall ein hymwelwyr eu mwynhau am gyhyd ag y bo modd.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com neu 01286 672626.