Bydd gwirfoddolwyr yn gweithio'n agos gydag un grŵp o
frodyr a chwiorydd a bennwyd ar gyfer yr wythnos. Rôl y gwirfoddolwr fydd
gweithredu mewn swyddogaeth gefnogol ac ymgyfeillio, i fod yn rhan o drefniadau
llyfn a diogel y gwersylloedd ac i sicrhau profiad o ansawdd uchel ar gyfer y
bobl ifanc sy'n mynychu.
Bydd gwirfoddolwyr yn gweithio o dan gyfarwyddyd yr
Arweinydd i sicrhau ethos a gwerthoedd Siblings Together yn cael eu hyrwyddo
drwy'r gwersylloedd. Bydd goruchwyliaeth yn cael ei gynnig o fewn grŵp bob nos
ac yn unigol os oes angen.
Gofynion:
1.
Gweithio'n agos gyda'r Arweinydd,staff a gwirfoddolwyr eraill i sicrhau rhediad
diogel a llwyddiannus y gwersyll.
2.
Gweithredu bob amser ar weithdrefnau amddiffyn plant perthnasol a gweithdrefnau
iechyd a diogelwch gan ddilyn canllawiau arfer da.
3.
Gweithio'n agos gyda'r bobl ifanc,
chwarae rhan lawn yn eu bywydau bob dydd ac yn ystod y gwersyll ac eu
cefnogi i gael y gorau o'u hamser
Taliad anrhydeddus £100
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286
672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com