Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

29/10/2015

Cydlynwyr rhoddion Calonnau Cymru


Yn gweithio o adref, byddwch yn berson trefnus, cyfeillgar ac hyderus gyda empathi naturiol tuag at bobl. Bydd gennych y gallu i gyfathrebu'n dda dros y ffôn ac wyneb yn wyneb ac yn mwynhau siarad a chwrdd â phobl eraill. Bydd gennych wybodaeth dda am eich cymuned leol a'i phobl.
Bydd ein gwirfoddolwyr cydlynwyr rhoddion yn gweithio gydag ychydig o oruchwyliaeth ac yn cael boddhad o gwblhau tasg er mwyn cynyddu arian ar gyfer Calonnau Cymru. Bydd angen ymrwymiad cryf at nodau a gwaith Calonnau Cymru yn bwysig.
Bydd tasgau yn cynnwys ein helpu i weinyddu arian a dderbyniwyd drwy rhoddion  'In Memoriam' , yn ogystal â helpu i godi ymwybyddiaeth am ein cronfeydd coffa. Byddwch yn cydnabod rhoddion gyda chydymdeimlad gan y perthynas agosaf, yn cofnodi rhoddion ac arian gan Gyfarwyddwyr Angladdau. Mae'r gwaith hefyd yn cynnwys ymweld â Threfnwyr Angladdau o bryd i'w gilydd i gynnal a chryfhau ein perthynas a chynyddu ein proffil.
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com