Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

08/12/2015

Gwirfoddolwr Mentor Cyfoed - Gisda

 Cynorthwyo’r gweithwyr allweddol a cefnogol gyda thasgau dyddiol

- Cyfathrebu yn gyson gyda’r gweithwyr allweddol/cefnogol
- Rhannu unrhyw bryderon ynglŷn â defnyddwyr gwasanaeth a’r staff perthnasol
- I fod yn llais i'r bobl ifanc mewn cyfarfodydd e.e. grŵp ffocws, cyfarfod trigolion
- Bod yn glust i'r bobl ifanc wrth gadw’n broffesiynol a rhannu gwybodaeth pam angen yn ôl canllawiau cyfrinachedd.


Annog a chefnogi pobl ifanc i:
 -Cael defnydd llawn o brosiectau a’r cynlluniau
 -i fynychu gweithgareddau a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd ar gael
 -i ddatblygu a dysgu sgiliau newydd
 -i fod yn iach

  -i gyllidebu eu harian yn well
  -i goelio yn eu hunain a hyrwyddo hunan hyder
  -i gyrraedd eu llawn botensial


Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com