Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

08/12/2015

Gweithiwr Achos Gwirfoddol. Cymdeithas y Lluoedd Awyr Brenhinol(RAF)- Caernarfon.


Mae Cymdeithas y Lluoedd Awyr Brenhinol (RAF) yn elusen lles a arweinir gan aelodau sy'n cynnig cymorth i deuluoedd RAF.

Rydym yn chwilio am bobl i ymuno â'n tîm o wirfoddolwyr hyfforddedig.

Mae Gweithiwr Achos yn gwneud gwaith lles ar gyfer Cymdeithas y Llu Awyr Brenhinol. Mae'r gwaith yn ymwneud ag ymweliad a gwrando ar unigolion i asesu eu hanghenion i gael gwybod sut y gall y Gymdeithas roi cymorth a chefnogaeth iddynt.

Gall cefnogaeth gynnwys unrhyw beth o helpu cleient sydd wedi datblygu anabledd yn diweddar i fod mewn cysylltiad â gwasanaethau cymdeithasol. Gall hyn fod i'w helpu iddynt roi  cais am ystafell i lawr y grisiau wlyb, er enghraifft, neu rywbeth mor syml â rhoi cais i Gymdeithas RAF am gyllid ar gyfer tegell newydd.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com