Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

07/12/2016

Cefnogaeth Weinyddol - Siop Ysbyty Gwynedd - RVS


Mae angen cymorth yn swyddfa ein siop yr ysbyty. Bydd y gwirfoddolwr yn rhan o dîm bychan a bydd yn ofynnol i brosesu anfonebau, diweddaru cofnodion hyfforddiant, yn helpu yn archebu stoc, rheoli gwaith papur, ffeilio a diweddariadau cyfrifiadurol.
Bydd y gwirfoddolwr yn cefnogi'r tîm rheoli a byddant yn derbyn yr holl hyfforddiant angenrheidiol.
Mae'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol (RVS) yn darparu cefnogaeth ar gyfer yr henoed yn ein hysbytai a'r gymuned ehangach. Mae llawer o'n gwirfoddolwyr yn mynd ymlaen i gyflogaeth o fewn y sector gofal neu sector manwerthu ac yn wir rhai o'n gwirfoddolwyr wedi bod gyda ni ers dros 20 mlynedd.
 
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com