Gwirfoddolwyr cynorthwyol
Mae Clwb Drama Cwmni Cofis Bach wedi bod yn gweithio ar
greu ffilm fer a ysbrydolwyd gan hanes a phrofiadau pobl leol yn ystod y cyfnod
y Rhyfel Mawr. Mae pobl ifanc wedi bod yn dychmygu sefyllfaoedd a fyddai wedi
digwydd i gymuned Caernarfon yn ystod y cyfnod hwn. Ar 11 Rhagfyr, 2016 rydym yn bwriadu ffilmio
golygfeydd o ffilm yn Noddfa ym Mheblig yn ogystal ag ar leoliad. Byddwn yn
ffilmio yn y parc ger Clwb Rygbi Caernarfon. Hoffem gael cefnogaeth gan
wirfoddolwr i'n helpu gyda agweddau o'r prosiect gan gynnwys cadw'r bobl ifanc
yn ddiogel a gwybodus, helpu gyda chyfarwyddiadau, help gyda phropiau a chael
mewnbwn y bobl ifanc i'r broses ar
adegau.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com