Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

21/06/2017

Gwirfoddolwyr grwpiau cefnogaeth – Fertility Network UK


Mae Rhwydwaith Ffrwythlondeb UK yn chwilio am wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn sefydlu grŵp cefnogi yn eich ardal leol. 

Fel Grŵp Gwirfoddolwyr byddwch yn: -
-Gweithredu fel prif gyswllt ar gyfer y grŵp
-Trefnu a chynnal rhestr e-bost ar gyfer mynychwyr y grŵp
-Trefnu siaradwyr ar gyfer cyfarfodydd grŵp
-Llogi ystafelloedd
-Trefnu gweithgareddau cymdeithasol
-Cefnogi a chynghori gwirfoddolwyr grŵp arall
-Cadw at bolisiau a gweithdrefnau Fertility Network UK 

Mae Rhwydwaith Ffrwythlondeb UK yn darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i unrhyw un a effeithir gan faterion ffrwythlondeb. Rydym yn codi ymwybyddiaeth o broblemau ffrwythlondeb ac yn ymgyrchu dros ddarpariaeth deg o driniaeth ffrwythlondeb ledled y DU. Mae croeso i ddynion a merched wneud cais. 

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com