Mae Gen i Go’ yw’r prosiect amrywiol a chyffrous sydd
wedi bod yn cael ei arwain gan GISDA ers Ionawr 2017. Hyd yma mae wedi cysylltu
â phobl o bob oed a chefndir, i gyd â un peth yn gyffredin sef rhywbeth i’w
ddweud am Dre.
Ers y cychwyn, nod y prosiect yw i roi llais i bobl
Caernarfon a gwneud defnydd creadigol o’r llais yna.
Uchafbwynt y prosiect fydd darn creadigol sy’n cyfuno
theatr, celf a gwaith cymunedol a fydd yn ran o Gŵyl Arall, sy’n digwydd ar 7-9
o Orffennaf. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â ni i greu y digwyddiad
arloesol a chreadigol hwn.
Gofynion
Bydd angen i’r gwirfoddolwyr fod yn rhydd i wirfoddoli
o’r 3ydd i’r 9fed o Orffennaf
Bydd angen gallu gweithio’n dda mewn tîm
Bydd angen i’r gwirfoddolwyr fod â meddwl agored am beth
sy’n creu ‘profiad creadigol bositif’
Bydd cinio am ddim bob dydd a lwfans arianol dyddiol ar
gael ar gyfer yr holl wirfoddolwyr. Mae’r
cyfle yma yn addas i bobl oed 15+
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com