Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

21/06/2017

Gwirfoddolwyr Gwyl Undod Hijinx - Theatr Hijinx


Rolau yn cynnwys: 

1. Dydd Llun 5 Mehefin i Gwener 1 Gorffennaf = Dosbarthu Taflenni Rhoi awr i ddosbarthu taflenni yng nghanol dre Caernarfon, siopau lleol, caffis, ac ati.  

2. Dydd Mercher 28 Mehefin - Dydd Sadwrn 1 Gorffennaf - Blaen tŷ -

 Darparu gwybodaeth, gosod arwyddion, dosbarthu rhaglenni a chasglu adwaith cynulleidfaoedd ar gyfer ein holl perfformiadau (tocyn a rhad ac am ddim) yn Galeri Caernarfon. Mae angen gwirfoddolwyr naill ai am yr holl amser neu am berfformiad neu ddau. 

3. Dydd Gwener 30 Mehefin - Diwrnod Ysgolion - Darparu gwybodaeth, gosod arwyddion a chasglu adwaith cynulleidfaoedd. 

4.Dydd Sadwrn 01 Gorffennaf a Dydd Sul 02 Gorffennaf - Stiwardio- Dosbarthu taflenni, annog y gynulleidfa i ymgynnull, edrych ar ôl a ddarparu gwybodaeth i’r gynulleidfa yn ystod perfformiadau. Mae angen gwirfoddolwyr naill ai ar gyfer yr holl benwythnos neu am ran o’r penwythnos.
 
Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com