Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

21/06/2017

Gwirfoddolwyr maethu cŵn – Protecting Preloved Border Collies

Rydym yn elusen genedlaethol sy'n darparu diogelwch i gŵn Collies mewn amryw o sefyllfaoedd gwahanol ac sydd angen cartref newydd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein gwefan:

www.protectingprelovedbordercollies.org.uk

Mae angen gofalwyr maeth tymor byr a thymor hir i ddarparu amgylchedd gofalgar ar gyfer ein cŵn tra eu bod yn eu hasesu ar gyfer y lleoliad mwyaf addas ar gyfer eu cartrefi newydd. Mae Profiad blaenorol gyda chŵn Collies yn ddymunol ond nid yn hanfodol.

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com