Cofrestru Diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
09/06/2015
Gwirfoddolwyr i gynorthwyo gyda'r wefan a hyrwyddo
Cynorthwyo i sicrhau fod gwefan Marchogaeth i'r Ananbl MEIRIONNYDD yn gyfredol ac hefyd cyfle i hyrwyddo a creu deunyddiau hyrwyddo codi arian. Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
Cadeirydd Grŵp Codi Arian (18+) - Marie Curie Cancer Care
Bydd Grwpiau Codi Arian yn trefnu casgliadau a digwyddiadau codi arian ac annog y gymuned leol i gefnogi Gofal Canser Marie Curie. Trwy gyfrwng eich arweinyddiaeth, bydd y grŵp yn gwneud y gorau o bob cyfle i godi arian yn eich ardal. Byddwch yn helpu i greu tîm codi arian cydlynol sy’n canolbwyntio ar godi cymaint ag y gellir o arian ar gyfer Gofal Canser Marie Curie. Mae arnom eisiau i chi:
Cydlynydd Casglu Arian - Marie Curie Cancer Care
Byddwch yn synnu faint o arian sy'n cael ei roi trwy flychau casglu o fewn y gymuned leol. Fel Cydlynydd Casglu Arian, chi fydd yn gyfrifol am eich rhwydwaith eich hun o flychau yn eich ardal leol - boed mewn siop leol neu ganolfan hamdden. Po fwyaf o flychau gallwch osod a chasglu, y mwyaf o arian y byddwch yn codi ar gyfer Marie Curie.
Fel Cydlynydd Casglu Arian byddwch yn ymweld â safleoedd sy'n bodoli eisoes ychydig o weithiau y flwyddyn i gyfnewid tuniau llawn ar gyfer rhai gwag ac yn defnyddio eich gwybodaeth leol i chwilio am leoliadau newydd. Byddwch hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y Apêl Fawr Cennin Pedr ym mis Mawrth, trwy helpu i osod a chasglu blychau cenin pedr.

02/06/2015
21/05/2015
Cynorthwy-ydd Digwyddiadau - Castell Penrhyn
Bydd y Cynorthwy-ydd Digwyddiadau yn helpu i drefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau gwahanol yng Nghastell Penrhyn gan gynnwys cynllunio, paratoi, sefydlu a rhedeg gweithgareddau ar y diwrnod. Mae'n ymwneud â chynnig rhywbeth sy'n hwyliog a chofiadwy i ymwelwyr a'u hannog i ddychwelyd a / neu dweud wrth eu ffrindiau amdanom ni.
Singathon Haf- Bangor- Casglwyr Bwced. Tenovus
Mae Gofal Canser Tenovus yn chwilio am lawer o bobl hwyliog a chyfeillgar i wirfoddoli fel casglwyr bwced am ychydig o oriau yn ein Singathon Haf ym Mangor. Bydd Corau a cherddorion yn perfformio drwy gydol y dydd ac rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i sbario awr neu ddwy er mwyn helpu i godi arian gyda ni a mwynhau perfformiadau!
18/05/2015
Prosiect Troseddau Casineb Cymru
Mae Cynllun Cynnal Dioddefwyr yn chwilio am wirfoddolwyr i gael hyfforddiant i gefnogi dioddefwyr a tystion sydd wedi cael eu effeithio gan droseddau casineb. Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
Hyfforddwyr Chwarae a Chwaraeon - Taith i'r Balcanau Hydref 2015
Ymunwch â'r Tim Chwarae y Byd ar daith o 8 wythnos i'r Balcanau yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifanc difreintiedig:
Bydd wyth o wirfoddolwyr ynghyd âg Arweinydd Tîm yn cynnal sesiynau chwarae a chwaraeon yn ein sefydliadau partner yn Croatia, Bosnia, Kosovo, Serbia a Romania. Bydd pob gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant llawn fel Arweinwyr Chwarae. Byddwch yn cael profiad uniongyrchol mewn elusen ryngwladol. Byddwch yn archwilio rhanbarth tu hwnt i'r llwybr dwristiaid a byddwch yn elwa o brofiadau mwyaf bythgofiadwy eich bywyd.
Bydd ein taith nesaf yn gadael ym mis Awst / Medi 2015

Subscribe to:
Posts (Atom)