Bydd Grwpiau Codi Arian yn trefnu casgliadau a digwyddiadau codi arian ac annog y gymuned leol i gefnogi Gofal Canser Marie Curie. Trwy gyfrwng eich arweinyddiaeth, bydd y grŵp yn gwneud y gorau o bob cyfle i godi arian yn eich ardal. Byddwch yn helpu i greu tîm codi arian cydlynol sy’n canolbwyntio ar godi cymaint ag y gellir o arian ar gyfer Gofal Canser Marie Curie. Mae arnom eisiau i chi:
• Helpu’r Grŵp i gynllunio a threfnu calendr o ddigwyddiadau codi arian
• Arwain y grŵp yn ei holl weithgareddau
• Annog pobl i gefnogi Gofal Canser Marie Curie, a sefydlu a chynnal perthnasau â chefnogwyr lleol
• Recriwtio a chroesawu aelodau newydd i’r grŵp pan fydd angen
• Cadeirio cyfarfodydd y grŵp gan sicrhau y caiff pob safbwynt ei ystyried
• Cadw’r cyfarfod yn drefnus a sicrhau fod y penderfyniadau a’r camau gweithredu yn glir i holl aelodau’r grŵp
• Hysbysu’r Swyddog Codi Arian Cymunedol am weithgareddau’r grŵp a chael cymeradwyaeth i gynnal digwyddiadau
• Ymateb i ymholiadau'r cyhoedd
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com