Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

09/06/2015

Cydlynydd Casglu Arian - Marie Curie Cancer Care

Byddwch yn synnu faint o arian sy'n cael ei roi trwy flychau casglu o fewn y gymuned leol. Fel Cydlynydd Casglu Arian, chi fydd yn gyfrifol am eich rhwydwaith eich hun o flychau yn eich ardal leol - boed mewn siop leol neu ganolfan hamdden. Po fwyaf o flychau gallwch osod a chasglu, y mwyaf o arian y byddwch yn codi ar gyfer Marie Curie.
Fel Cydlynydd Casglu Arian byddwch yn ymweld â safleoedd sy'n bodoli eisoes ychydig o weithiau y flwyddyn i gyfnewid tuniau llawn ar gyfer rhai gwag ac yn defnyddio eich gwybodaeth leol i chwilio am leoliadau newydd. Byddwch hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y Apêl Fawr Cennin Pedr ym mis Mawrth, trwy helpu i osod a chasglu blychau cenin pedr.


Boed sayn dun casglu neu flwch cennin pedr, y cam nesaf yw cyfrif a bancio y rhoddion a chwblhau'r gwaith papur angenrheidiol.
Mae'r rôl hon yn hyblyg ac yn amrywiol, er mwyn i chi wir yn ei gwneud yn eich pen eich hun. Gallwch drefnu eich amser fel bod eich gwaith gwirfoddol cyd-fynd â'ch bywyd.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com