Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

09/06/2015

Cynorthwyo mewn siop elusen - Tenovus

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gynorthwyo yn ein siopau. Rhai o'r dyletswyddau fydd:  gwaith til, mynd trwy rhoddion o bethau wedi eu cyfrannu, stemio dillad.

Am fanylion pellach cysylltwch a Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Llinell Gymorth Cymru - Survivors Trust Wales

'The Survivors Trust' yw’r asiantaeth ymbarél  cenedlaethol fwyaf ar gyfer elusennau trais rhywiol, trais rhywiol phlentyndod a cham-drin rhywiol ledled y DU ac Iwerddon .
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio gwirfoddolwyr i weithio fel gweithredwyr llinell gymorth ar gyfer ein Tîm cenedlaethol Cymru .


Gwirfoddolwyr i gynorthwyo gyda'r wefan a hyrwyddo

Cynorthwyo i sicrhau fod gwefan Marchogaeth i'r Ananbl MEIRIONNYDD yn gyfredol ac hefyd cyfle i hyrwyddo a creu deunyddiau hyrwyddo codi arian.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Cadeirydd Grŵp Codi Arian (18+) - Marie Curie Cancer Care

Bydd Grwpiau Codi Arian yn trefnu casgliadau a digwyddiadau codi arian ac annog y gymuned leol i gefnogi Gofal Canser Marie Curie. Trwy gyfrwng eich arweinyddiaeth, bydd y grŵp yn gwneud y gorau o bob cyfle i godi arian yn eich ardal. Byddwch yn helpu i greu tîm codi arian cydlynol sy’n canolbwyntio ar godi cymaint ag y gellir o arian ar gyfer Gofal Canser Marie Curie. Mae arnom eisiau i chi:

Cydlynydd Casglu Arian - Marie Curie Cancer Care

Byddwch yn synnu faint o arian sy'n cael ei roi trwy flychau casglu o fewn y gymuned leol. Fel Cydlynydd Casglu Arian, chi fydd yn gyfrifol am eich rhwydwaith eich hun o flychau yn eich ardal leol - boed mewn siop leol neu ganolfan hamdden. Po fwyaf o flychau gallwch osod a chasglu, y mwyaf o arian y byddwch yn codi ar gyfer Marie Curie.
Fel Cydlynydd Casglu Arian byddwch yn ymweld â safleoedd sy'n bodoli eisoes ychydig o weithiau y flwyddyn i gyfnewid tuniau llawn ar gyfer rhai gwag ac yn defnyddio eich gwybodaeth leol i chwilio am leoliadau newydd. Byddwch hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y Apêl Fawr Cennin Pedr ym mis Mawrth, trwy helpu i osod a chasglu blychau cenin pedr.

21/05/2015

Cynorthwy-ydd Digwyddiadau - Castell Penrhyn

Bydd y Cynorthwy-ydd Digwyddiadau yn helpu i drefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau gwahanol yng Nghastell Penrhyn gan gynnwys cynllunio, paratoi, sefydlu a rhedeg gweithgareddau ar y diwrnod. Mae'n ymwneud â chynnig rhywbeth sy'n hwyliog a chofiadwy i ymwelwyr a'u hannog i ddychwelyd a / neu dweud wrth eu ffrindiau amdanom ni.

Singathon Haf- Bangor- Casglwyr Bwced. Tenovus

Mae Gofal Canser Tenovus yn chwilio am lawer o bobl hwyliog a chyfeillgar i wirfoddoli fel casglwyr bwced am ychydig o oriau yn ein Singathon Haf ym Mangor. Bydd Corau a cherddorion yn perfformio drwy gydol y dydd ac rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i sbario awr neu ddwy er mwyn helpu i godi arian gyda ni a mwynhau perfformiadau!