Prif nôd y cyfle yma
ydi: cynorthwyo’r gweithwyr allweddol a
cefnogol gyda thasgau dyddiol, cyfathrebu yn gyson gyda’r gweithwyr
allweddol/cefnogol, rhannu unrhyw bryderon ynglŷn â defnyddwyr gwasanaeth a’r
staff perthnasol, i fod yn llais i'r bobl ifanc mewn cyfarfodydd e.e. grŵp
ffocws, cyfarfod trigolion, bod yn glust i'r bobl ifanc wrth gadw’n
broffesiynol a rhannu gwybodaeth pam angen yn ôl canllawiau cyfrinachedd. Hefyd annog a chefnogi pobl ifanc i: Cael defnydd llawn o brosiectau a’r
cynlluniau, i fynychu gweithgareddau a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd ar gael, i ddatblygu a dysgu sgiliau newydd, i fod yn iach, i gyllidebu eu harian yn well, i goelio yn eu hunain a hyrwyddo hunan hyder, i
gyrraedd eu llawn botensial. Am fanylion
pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu
gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Cofrestru Diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
01/04/2016
Darparu Gwasanaeth Ysgolion NSPCC (ChildLine)
Mae Gwasanaeth Ysgolion
NSPCC yn apelio am siaradwyr Cymraeg yn enwedig yng Ngwynedd i helpu i gyflwyno
rhaglen arloesol i bob un ysgol gynradd leol yng Ngogledd Cymru.
Mae Gwasanaeth Ysgolion
ChildLine yn hyfforddi gwirfoddolwyr i ymweld ag ysgolion cynradd a thrafod
cam-drin (gan gynnwys bwlio)gyda phlant rhwng 9 ac 11 oed mewn modd sy'n
briodol i'w hoedran. Drwy wasanaethau ysgolion a gweithdai, mae'n rhoi'r
sgiliau i bobl ifanc allu amddiffyn eu hunain ac mae'n esbonio ble i fynd i
gael help. Mae’r cyfle yma yn addas i
wirfoddolwyr 16+ oed. Am fwy o fanylion
cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Gwirfoddolwr cyfeillio i berson ifanc - NYAS
Byddai'r gwirfoddolwr yn
cyfeillio person ifanc yn y Bala, trwy eu cynorthwyo ac eu cefnogi i ddarganfod
gweithgareddai yn y gymuned yn fisol.
Mae’r cyfle yn addas i wirfoddolwyr rhwng 18 – 65 oed. Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell
Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Trysorydd – Cylch Meithrin Seiont a Pheblig
Rheolir Cylchoedd
Meithrin gan Bwyllgor sydd fel arfer yn cynnwys rhieni sy’n dod a gwahanol
sgiliau i’r grwp. Mae Cylch Meithrin Seiont a Pheblig yn un o gylchoedd
meithrin mwyaf Gwynedd gyda 52 o blant ar y cofrestr.
Ni fydd angen gwneud
gwaith ‘payroll’ gan fod y Cylch yn talu Mudiad Meithrin i wneud hynny ond bydd angen bod yn gyswllt â Adran
Gyflogaeth Mudiad Meithrin yn fisol ar gyfer sicrhau fod cyflogau yn gywir bob
mis.
Y prif ddyletswyddau
fydd: cyfrifon taclus, talu anfonebau
dan gyfarwyddyd yr arweinydd, bod yn gyswllt gyda Dechrau’n Deg a Cyngor
Gwynedd ynglyn â grantiau, darparu’r cyfrifon ar gyfer y cyfrifydd yn flynyddol. Y cyfle yn addas i wirfoddolwyr oed 18+. Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell
Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Gwirfoddolwyr digwyddiad Balchder Gogledd Cymru 2016
Mae Cymru Pride Wales angen gwirfoddolwyr ar gyfer eu
digwyddiad Balchder Gogledd Cymru 2016. Cynhelir yr wyl dros benwythnos
Gorffennaf 1af-3ydd 2016 draw yn Neuadd Hendre ar gyrion dinas Bangor. Mae
nifer o gyfleoedd ar gyfer unigolion brwdfrydig a fyddai'n hoffi bod yn rhan
o'r digwyddiad unigryw yma. Mae gennym amryw o gyfleoedd ar gael gan gynnwys
cynorthwywyr maes parcio, cynorthwywyr maes gwersylla, cynorthwywyr y tîm adloniant
(croesawu a thywys y cantorion i'r ŵyl a thasgau eraill), cynorthwywyr tîm y
dderbynfa/croeso, gwirfoddolwyr holiadur - gofyn am adborth gan westeion yn
ystod yr ŵyl gan sicrhau bod eu anghenion yn cael eu diwallu a'u bod yn
mwynhau'r digwyddiad, a thasgau cyffredinol eraill. Ar y cyfan, byddwch yn
teimlo'n rhan o dîm cyfeillgar ac yn cyfrannu tuag at lwyddiant pedwerydd
digwyddiad Balchder Gogledd Cymru! Y
cyfle yn addas i wirfoddolwyr 18+ oed.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
neu ar 01286 672626
08/03/2016
Stepping Stones - Cydlynydd cymunedol (18+ oed)
Am fanylion pellach,
cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Stepping Stones - Gwirfoddolwyr casglu arian (18+ oed)
Cefnogi mentrau a
digwyddiadau codi arian yn y gymuned i godi proffil yr elusen a rhoddion.
Helpu i sefydlu a
staffio mewn cynadleddau. Gweithredu fel llysgennad i'r elusen o fewn y
gymuned. Ardaloedd Wrecsam, Sir
Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn.
Am fanylion pellach
cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.
Gweithredu Dros Blant - Gwirfoddoli i brosiect gofalwyr ifanc
Rhai o agweddau o’r
cyfle yma:
Cefnogaeth 1:1
Cefnogaeth grŵp
Cyfrifoldebau gweinyddol
a swyddfa
Codi arian
Tripiau seibiant a
gweithgareddau
Mae’r cyfle gwirfoddol
yma yn addas i berson oed 18+. Am
fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Subscribe to:
Posts (Atom)