Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

05/04/2017

Gwirfoddolwr Dosbarthu 'Macular Matters' - Cymdeithas Maciwlar

Rydym yn chwilio am nifer o wirfoddolwyr sydd gyda amser i'w sbario i helpu i ddosbarthu ein cylchlythyr 'Macular Matters' ddwywaith y flwyddyn. Mae'r cylchlythyr yn ein helpu i godi ymwybyddiaeth o glefyd macular a chodi arian ar gyfer yr achos. Mae'n cael ei gynhyrchu ym mis Mai a mis Tachwedd. Felly, os allwch sbario ychydig o'ch amser yn ystod y misoedd yma i ddosbarthu'r newyddlen yn eich ardal leol i leoliadau megis clinigau llygaid, meddygfeydd, gwasanaethau golwg gwan, canolfannau iechyd ac ati yna dyma'r cyfle i chi!

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Arweinydd grwp - Cymdeithas Maciwlar

Rydym yn chwilio am Arweinwyr gwirfoddol i helpu sefydlu a rhedeg grwpiau cefnogi Macwlaidd lleol ac i sefydlu pwyllgor gweithredol i sicrhau bod y grŵp yn cael ei redeg yn llwyddiannus. Gallwch wneud gwir wahaniaeth yn eich cymuned drwy diwallu anghenion y bobl yr effeithir gan glefyd Maciwla (Macular Disease ). Os fedrwch chi ein helpu i godi ymwybyddiaeth o Macular Disease a dod yn rhan o nifer o grwpiau cymorth a gwirfoddolwyr sy'n helpu pobl sy'n byw gyda Chlefyd Macwlaidd, yna gallai hwn fod yn gyfle i chi.

Ymrwymiad amser yw 2-4 awr y mis. 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

30/03/2017

Ymgyrch Tesco Turns Pink - casglu arian tuag at Cancer Research UK 29ain a 30ain Ebrill 2017 - Ymchwil Canser Cymru

Pam bod angen chi?

Helpwch Tesco a  Race for Life Cancer Research UK wrth i ni ddathlu 16 mlynedd mewn partneriaeth. Ar y 29 a 30 o Ebrill, rydym yn chwilio am wirfoddolwyr casglu bwced i gefnogi 'Tesco Truns Pink'. 

Beth fyddwch chi'n ei wneud?

Mae angen eich help i wirfoddoli mewn siop Tesco yn eich ardal chi! Byddwch yn rhan o'n ymgyrch Tesco Turns Pink ble rydym yn codi arian a chasglu rhoddion tuag at y frwydr yn erbyn canser. 

Mae croeso i bawb ac nid oes angen unrhyw brofiad - dim ond rhywfaint o egni, brwdfrydedd a gwên! 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr/aig garddio – Gerddi Plas Brondanw

Cynorthwyo gyda dyletswyddau garddio cyffredinol gan gynnwys plannu, bwydo, chwynnu, tocio, lluosogi, torri gwair ac ati mewn gardd hanesyddol diddorol a phwysig iawn. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Cofio Er Mwyn Heddwch – Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru

Cefnogi ymwelwyr i'n digwyddiadau yng Nghaernarfon ac Ynys Môn yr haf yma.  Bydd gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi mewn elfennau o hanes y Rhyfel Byd Cyntaf, sut i ymchwilio enwau yn y Llyfr Cofio ac hefyd eu trawsgrifio nhw (hyn sydd yn neud o’n bosib chwilio am enw). Mi fydd hyfforddiant tebyg ar gael i wefan Cymru yn y Rhyfel.  Bydd digwyddiadau yn cynnwys arddangosfa yn Eglwys Santes Fair yng Nghaernarfon, Oriel Ynys Mon, Llangefni, a’r Maes yr Eisteddfod Genedlaethol ar Ynys Mon.  Bydd angen cefnogaeth ym mis Mehefin (12-17), mis Gorffenaf (30) a mis Awst (4-12).

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Helpu hefo gweithgareddau clwb – Girls Friendly Society

Allwch chi ein helpu i sefydlu grŵp i ferched a menywod ifanc yn eich ardal chi? 

Ers 1875 rydym wedi bod yn darparu cyfleoedd ar gyfer merched a menywod ifanc i ddatblygu eu hunan-barch, hyder a lles emosiynol. Mae ein clybiau yn cyfarfod yn wythnosol yn ystod y tymor ysgol ac yn darparu gwasanaeth ar gyfer merched 6-25. 

Cyfeillgarwch yw sail i'n gwaith, cefnogi dysgu sgiliau rhyngbersonol a chymdeithasol, cydweithrediad a datblygu hyder.  Mae ein grwpiau yn amrywio yn ôl sgiliau a diddordebau ein gwirfoddolwyr. Mae sesiynau gyda merched iau yn cynnwys  gemau, crefftau, coginio, cerddoriaeth ac yn y blaen. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant sgiliau bywyd a iechyd rhywiol. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Arweinwyr Sgowtiaid a Cynorthwy-ydd Beavers – Sgowtiaid Cymru (Bangor)

Mae Beavers ar gyfer merched a bechgyn rhwng 6-8 mlwydd oed. Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael megis Arweinwyr Sgowtiaid Beaver neu Cynorthwy-ydd Adran Sgowtiaid Beavers . Mae'r rolau yn cynnwys cynllunio a rhedeg rhaglen amrywiol o gemau a gweithgareddau gyda'r Sgowtiaid Beaver. Darperir hyfforddiant am ddim a gellir ei achredu gan Rwydwaith y Coleg Agored. Mae'r Sgowtiaid yn ymwneud â chael hwyl a gwneud ffrindiau newydd, mae'n wych i wella eich CV a gwneud cyfraniad i fywydau pobl ifanc a'r gymuned leol. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Arweinwyr Sgowtiaid a Cynorthwy-ydd Beavers – Sgowtiaid Cymru (Caernarfon)